British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011, 09:42 GMT 10:42 UK
Arweinydd o Ddenmarc i gydio yn yr awennau

Thomas Søndergård
Bydd Søndergård yn perfformio gyda'r gerddorfa ym Mae Caerdydd nos Fawrth

Cyhoeddwyd mai Thomas Søndergård o Ddenmarc fydd arweinydd nesa' Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Mae'n ddarpar brif arweinydd hyd nes y bydd ei gyfnod pedair blynedd yn dechrau'n swyddogol yn ystod tymor 2012/13.

Bydd yn olynu Thierry Fischer o'r Swisdir, fydd yn arwain y gerddorfa am ei dymor ola' o fis Medi.

Ar hyn o bryd mae Søndergård yn brif arweinydd ac yn ymgynghorydd cerdd gyda Cherddorfa Radio Norwy.

Bydd Søndergård yn perfformio gyda'r gerddorfa mewn cyngerdd yn Neuadd Hoddinott ym Mae Caerdydd nos Fawrth.

Bydd y cyngerdd hefyd yn cael ei ddarlledu yn fyw ar BBC Radio 3.

The concert is also being broadcast live on BBC Radio 3.

Wrth gyfuno rhagoriaeth unig gerddorfa broffesiynol Cymru a gallu Thomas Søndergård, mae'n ddechrau cyfnod cyffrous a chreadigol iawn i gynulleidfaoedd ei fwynhau
Keith Jones

Cyfarwyddwr, BBC Cymru

Dywedodd Søndergård ei fod yn edrych ymlaen at ymuno â Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn llawn-amser.

"Roedd fy ymddangosiad cynta' gyda'r gerddorfa ym mis Rhagfyr 2009 yn foment anhygoel i mi ac mae ymglymiad a brwdfrydedd y chwaraewyr, o'r nodyn cynta', wedi aros yn y cof.

'Cyfareddu'

"Adegau fel hyn - pan mae cerddorion yn awyddus i ddod gyda mi ar hyd y daith i galon y gwaith - sy'n fy atgoffa i pam mod i mor hoff o berfformio cerddoriaeth," meddai.

Yn ôl cyfarwyddwr y gerddorfa, David Murray: "Yn yr amser byr 'da ni wedi cydweithio, mae Thomas wedi cyfareddu'r gerddorfa gyda'i dalent cerddorol naturiol, ei egni a'i ymrwymiad clir."

Mae beirniaid cenedlaethol a rhyngwladol wedi canmol Søndergård, gan ddweud ei fod yn perfformio a recordio "gyda deallusrwydd treiddgar ac angerdd llwyr" a gyda "sgìl anhygoel".

Dywedodd cyfarwyddwr BBC Cymru, Keith Jones, fod y gorfforaeth yn falch iawn fod arweinydd o safon Thomas Søndergård yn ymuno â'r gerddorfa fyd enwog.

"Wrth gyfuno rhagoriaeth unig gerddorfa broffesiynol Cymru a gallu Thomas Søndergård, mae'n ddechrau cyfnod cyffrous a chreadigol iawn i gynulleidfaoedd ei fwynhau," meddai.



HEFYD
Cerddorfa: Agor cartre newydd
01 Chwef 09 |  Newyddion
Cerddorfa yn cael cartref newydd
12 Medi 08 |  Newyddion
Cartref newydd i gerddorfa'r BBC
25 Ion 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific