British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011, 07:16 GMT 08:16 UK
Cofeb i fachgen a lofruddiwyd

Monika Wasko a'i mab Patryk
Bu farw Monika Wasko a'i mab Patryk ym mis Gorffennaf 2010

Bydd gardd goffa arbennig yn cael ei hagor i gofio am fachgen ysgol gafodd ei lofruddio.

Cafodd Monika Wasko, 29, ei thrywanu i farwolaeth yn ei chartref yng Nghae Hir, Fflint, flwyddyn yn ôl, a bu farw ei mab Patryk yn yr ysbyty ddyddiau yn ddiweddarach.

Ym mis Tachwedd y llynedd, cafodd Krystian Rozek ei garcharu am oes am y llofruddiaethau.

Mae cyn ysgol Patryk, Ysgol Gynradd Babyddol y Santes Fair, yn cynnal seremoni arbennig i gofio amdano.

Dychwelyd

Bydd rhai o'r cyn ddisgyblion sydd bellach wedi symud i ysgolion uwchradd yn dychwelyd ar gyfer y diwrnod, ac fe fydd rhai ohonynt yn darllen yn y gwasanaeth.

Mae ardal arbennig, sy'n cynnwys gardd goffa, wedi cael ei chreu yn yr ysgol.

Dywedodd y pennaeth, Rachel Molyneux: "Roedd yn ddigwyddiad erchyll y llynedd, felly i gofio flwyddyn yn ddiweddarach, roeddem am gofio'r cyfnodau hapus.

"Roedd Patryk yn fachgen hyfryd."

Cafodd yr ardd a'r ardal goffa ei chynllunio gan ddisgyblion sy'n aelodau o gyngor yr ysgol, ac mae'n cynnwys plac i gofio am Patryk.



HEFYD
Llofruddio: Dwy ddedfryd oes
15 Tach 10 |  Newyddion
Cyhuddo dyn o lofruddio
16 Gorff 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific