Dywed y llywodraeth fod newidiadau i sustem gyllido S4C yn "hanfodol"
|
Mae Gweinidog Diwylliant San Steffan, Jeremy Hunt, wedi cyhoeddi newidiadau i'r Mesur Cyrff Cyhoeddus sy'n caniatáu trafod ariannu S4C. Er bod y llywodraeth wedi cyhoeddi eu bwriad i newid y modd mae'r sianel yn cael ei hariannu - gan ddileu'r cyswllt gyda'r Mynegai Pris Manwerthu (RPI) - doedd Rhan 4 y mesur ddim yn caniatáu i wleidyddion drafod y mater. Ar ôl Ail Ddarlleniad y mesur mae'r llywodraeth yn cynnig bod cymal yn cael ei ychwanegu fydd yn golygu bod modd i wleidyddion yn San Steffan drafod y newidiadau. Yn ôl y llywodraeth, mae'r newidiadau i sustem gyllido S4C yn hanfodol, gan y "byddai'n amhosib sicrhau cyllid fyddai'n gwrthsefyll effeithiau chwyddiant yn yr hinsawdd economaidd bresennol" ond "nad yw hyn yn tanseilio ymrwymiad y llywodraeth i ddiogelu dyfodol darlledu yn yr iaith Gymraeg." 'Difrifol' Dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards: "Dwi'n falch fod Llywodraeth San Steffan yn gadael i ni drafod ariannu ein hunig sianel Gymraeg. "Yn lle bod gweinidogion yn trin y sianel fel y maen nhw'n ei ddewis dwi'n gobeithio y byddan nhw'n sirchau amddiffyniad statudol o ran ariannu'r sianel. "Nawr fe ddylai'r llywodraeth lunio cynigion difrifol." O 2013 ymlaen fe fydd S4C yn cael ei hariannu gan y BBC yn rhannol o'r drwydded deledu. 'Ar fyrder' Ym mis Mehefin fe ddywedodd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan fod y penderfyniad hwnnw wedi ei wneud "ar fyrder". Mae S4C yn wynebu toriad o 25% yn ei chyllideb. Gan fod S4C yn dal wedi ei rhestru o dan Ran 3 y mesur - sy'n rhoi'r grym i ddiwygio trefniadau cyfansoddiadol - mae'n orfodol o dan gymal 10 y mesur fod angen trafod y gorchymyn hwnnw. Mae disgwyl i'r llywodraeth wneud cyhoeddiad am hyn maes o law. Yn y cyfamser, mae'r trafodaethau rhwng S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC yn parhau ynglŷn â sut y gellid cydweithio.
|