British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2011, 15:59 GMT 16:59 UK
Prifysgolion yn cael codi 9,000

Myfyrwyr
Ni fydd pob prifysgol yn codi 9,000 y flwyddyn

Fe fydd wyth o'r deg prifysgol yng Nghymru yn cael codi'r lefel fwya o ffïoedd dysgu sy'n cael ei chaniatáu, £9,000 y flwyddyn, am o leia rai o'u cyrsiau.

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru gymeradwyodd gynlluniau i godi'r ffïoedd dysgu o ddechrau'r flwyddyn academaidd 2012 ymlaen.

Ni fydd pob prifysgol yn codi'r lefel ucha - mae Prifysgol Glyndŵr, er enghraifft, wedi cyhoeddi mai £6,643 fydd cost cwrs gradd ar gyfartaledd gyda'r drutaf yn £7,750.

Llywodraeth Cymru, sy'n wynebu bil o £280m y flwyddyn, fydd yn talu'r cynnydd mewn ffïoedd i fyfyrwyr o Gymru.

Y gred yw y bydd myfyrwyr o Gymru'n talu £3,400 y flwyddyn.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones: "Rydyn ni'n hyderus y byddwn ni'n gallu talu am y polisi hwn yn ystod tymor ein llywodraeth ni."

'Ansicr'

Ond dywedodd Angela Burns AC, llefarydd y Blaid Geidwadol ar addysg: "Mae sybsideiddio myfyrwyr o Gymru ac o'r Undeb Ewropeaidd hyd at uchafswm o £9,000 yn golygu ymroddiad ariannol sy'n fwyfwy ansicr.

"Ychydig o wythnosau'n ôl fe gafodd cynigion y prifysgolion i godi £9,000 eu gwrthod.

"Mae angen gwybod beth yw'r newidiadau sy'n golygu mwy o fynediad i fyfyrwyr a chodi safonau.

"Mae'n ffynhonell gofid fod gweinidogion Llafur wedi cyhoeddi eu polisi cyn yr etholiad heb ystyried yn llawn y gost."

'Buddsoddiad gwych'

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yr Athro Philip Gummett: "Mae'n glir o'r cynlluniau ffïoedd y bydd sefydliadau yn defnyddio canran uchel o'r incwm ychwanegol er budd myfyrwyr.

"Mae addysg uwch yn fuddsoddiad gwych.

"Ac mae tryloywder y broses yn galluogi myfyrwyr i weld yn gliriach nag erioed beth y gallan nhw ddisgwyl o'u buddsoddiad."

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Mae Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam wedi dweud mai 6,643 fydd cost cwrs gradd ar gyfartaledd

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas AC: "Mae'r strategaeth yn un risg uchel ar gyfer rhai o'r sefydliadau addysg ac yn risg i'r llywodraeth.

"Roedd y Gweinidog Addysg wedi pwysleisio pa mor gynaliadawy oedd yr addewid ond erbyn hyn, rhaid i ni ofyn a oes modd fforddio'r cynllun."

Cais manwl

Roedd y Cyngor Cyllido wedi dweud wrth brifysgolion ar Fehefin 10 nad oedd eu cynlluniau gwreiddiol i godi ffïoedd uwch yn cwrdd â'r gofynion.

Ac roedd pob un o'r sefydliadau wedi gorfod paratoi cais manwl i'r cyngor cyllido i gael gwneud hyn - cais oedd yn ystyried barn y myfyrwyr.

Ymhlith y mesurau a gyflwynwyd gan y prifysgolion mae :-

• Ystod eang o ysgoloriaethau i fyfyrwyr o gefndiroedd incwm isel neu ddifreintiedig;

• Mwy o gyfleoedd i astudio yn Gymraeg;

• Mentora a chodi dyhead darpar fyfyrwyr o ardaloedd difreintiedig, a chynnwys dysgwyr hŷn yn hynny;

• Gwella sgiliau myfyrwyr a'u profiad ym myd gwaith i wella eu gobeithion o gael swyddi.

'Cyfle euraidd'

Mae hwn yn ddiwrnod trist i fyfyrwyr yng Nghymru.
Luke Young

Llywydd Undeb y Myfyrwyr

Ond mae Undeb y Colegau a Phrifysgolion (UCU) wedi annog sefydliadau i fod yn wyliadwrus am gost cyrsiau unigol.

Mae'r undeb yn poeni y bydd ffi o £9,000 yn rhwystr i nifer o ddarparfyfyrwyr a dywedodd eu swyddog rhanbarthol, Margaret Phelan: "Mae addysg yn gyfle euraidd pan mae'n fater o symudoledd cymdeithasol.

"Rhaid i sefydliadau fod yn ofalus a sicrhau nad yw £9,000 y flwyddyn yn rhwystro darpar fyfyrwyr.

"Mae cyrsiau fel hyn yn hanfodol i bobl sy'n ceisio dringo'r ysgol gymdeithasol ac iddyn nhw fe allai ffïoedd uwch fod yn drychineb."

'Effaith ddirfawr'

Dywedodd Undeb y Myfyrwyr (Cymru): "Er na fydd y cynnydd mewn ffïoedd yn effeithio ar fyfyrwyr sy'n wreiddiol o Gymru, gan y bydd Llywodraeth Cymru yn eu darparu â grant ffïoedd nad oes angen ei ad-dalu, bydd hyn yn cael effaith ddirfawr ar fyfyrwyr o du allan i Gymru sy'n dechrau cyrsiau israddedig ym Medi.

"Daw'r penderfyniad i ganiatáu ffïoedd uwch ar adeg cyni ariannol gan fod grantiau'r cyngor cyllido'n cael eu cwtogi'n sylweddol, gan arwain at ofnau y bydd y cynnydd newydd hwn mewn ffïoedd yn talu am doriadau wnaed mewn mannau eraill yn lle gwella profiad myfyrwyr."

Dywedodd y llywydd, Luke Young: Dywedodd Llywydd Undeb y Myfyrwyr (Cymru), Luke Young: "Mae hwn yn ddiwrnod trist i fyfyrwyr yng Nghymru.

"Nid yw'n dderbyniol codi £9,000 y flwyddyn am yr hawl i dderbyn addysg.

"Mae'n bwysicach nag erioed o'r blaen fod Llywodraeth Cymru yn cadw at eu haddewid i fyfyrwyr Cymru ac yn eu hamddiffyn rhag mwy o ddyled ymhell i'r dyfodol."



HEFYD
Penderfynu ar ffioedd atodol
11 Gorff 11 |  Newyddion
Prifysgol arall yn cyflwyno ffioedd
01 Meh 11 |  Newyddion
Mwy o brifysgolion am godi 9,000
31 Mai 11 |  Newyddion
Caerdydd: Ffioedd o 9,000
24 Mai 11 |  Newyddion
Aberystwyth: Ffioedd o 9,000?
09 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific