British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2011, 11:54 GMT 12:54 UK
Creu undeb credyd mwya' Cymru

Ffurflen
Undeb newydd: 'Mwy o wasanaethau'

Mae undeb credyd mwya' Cymru wedi cael ei lansio'n swyddogol.

Mae'n cynnwys pump o undebau llai yn y gogledd, sydd wedi dod at ei gilydd.

Hwn yw'r undeb mwyaf yn ddaearyddol ac o ran aelodau ond fe fydd y swyddfeydd presennol yn cael eu defnyddio.

Wrth lansio'r undeb yn Swyddfeydd y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, fod hyn yn "arwydd o gyfnod newydd i undebau credyd yng Nghymru".

Y canlynol sydd wedi cyfuno i greu Undeb Credyd Gogledd Cymru:

• Undeb Credyd Caledfryn, Dinbych;

• Undeb Credyd Arfordir Clwyd, Y Rhyl;

• Undeb Credyd Llandudno a'r Cyffiniau, Cyffordd Llandudno;

• Undeb Credyd Wrecsam;

• Undeb Credyd Y Llechen, Caernarfon.

Rhannu adnoddau

Dywedodd yr undeb y byddai rhannu adnoddau'n golygu mwy o ddiogelwch swyddi a'r gallu i gynnig mwy o wasanaethau.

Y newid pennaf fydd Cyfrif Cyfredol Undeb Credyd - gwasanaeth a ddatblygwyd yng Nghonwy yn ystod 2010 - sy'n cynnig yr un gwasanaethau a chyfrif banc arferol.

Mae'r rhain yn cynnwys cerdyn debyd, talu cyflogau i mewn i'r cyfrif a sefydlu systemau talu debyd uniongyrchol sy'n gallu arbed arian.

Benthyciadau llog isel fydd "asgwrn cefn" y mudiad newydd ond bydd mwy o arian wrth gefn yn gallu arwain at gynnig benthyciadau mwy.

'Dichonadwy a chynaliadwy'

Dywedodd Mr Sargeant bod taclo tlodi a dieithrio cymdeithasol yn un o'i flaenoriaethau dros y pum mlynedd nesa'.

"Mae undebau credyd yn ganolog wrth geisio gwneud hyn.

"Ond mae angen i'r undebau fod yn fwy dichonadwy a chynaliadwy yn ariannol.

"Mae 'na fanteision amlwg i gydweithredu rhwng undebau credyd - i'r undebau eu hunain, i'w haelodau ac i'r gymuned yn ehangach."

Ychwanegodd ei fod yn awyddus i barhau i geisio hybu ymwybyddiaeth o undebau credyd.



HEFYD
Creu undeb credyd mwyaf Cymru
05 Ion 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific