British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 9 Gorffennaf 2011, 09:46 GMT 10:46 UK
Papur newydd: 'Yn erbyn y llanw'

Pembroke & Pembroke Dock Observer
Ail rifyn y papur newydd ar gyfer cymuned yn ne Sir Benfro

Mae yna bapur wythnosol newydd yng Nghymru a hynny mewn cyfnod sydd wedi gweld nifer o bapurau lleol yn cau.

Caiff y Pembroke and Pembroke Dock Observer ei gyhoeddi gan y Tenby Observer sy'n rhan o grŵp Tindle.

Cafodd tua 1,500 o gopïau eu hargraffu ar gyfer y rhifyn cyntaf.

Cafodd yr ail rifyn ei gyhoeddi ddydd Gwener.

'Straeon cymunedol'

Dywedodd y rheolwr cyffredinol, Andrew Adamson fod y Tenby Observer, sy'n cyflogi 15 o staff, wedi ceisio cario straeon gan bobl Penfro a Doc Penfro.

Roedd 'na gynnydd yn y straeon oedd yn dod i law.

"Roedden yn meddwl tybed a fydda 'na alw am bapur penodol ar eu cyfer," meddai.

Mae'r Western Telegraph yn darparu papur ar gyfer y sir gyfan ond dywedodd Mr Andrews nad oedd 'na bapur penodol ar gyfer pobl Penfro a Doc Penfro.

"Mae'r Western Telegraph yn bapur gwych ond yn ymarferol all o ddim cynnwys y straeon am bob cymuned mewn manylder," ychwanegodd Mr Andrews.

Cyfraniad darllenwyr

Dywedodd yr ymgynghorydd cyfryngau, Robert Lloyd, cyn olygydd y Carmarthen Journal a Llanelli Star, bod papurau Tindle yn gweithredu yn wahanol iawn i'r rhai sy'n eiddo i gwmnïau mawr fel Trinity Mirror, Newsquest a Northcliff.

"Mae Ray Tindle yn arbenigo yn yr hen bapurau bach sy'n gwerthu rhwng 6,000 a 10,000," meddai.

"Maen nhw'n broffidiol ac mae ganddyn nhw ddarllenwyr triw am ei fod yn credu mewn hen werthoedd newyddion fel enwau, wynebau a llefydd.

"Y darllenwyr sy'n cyfrannu rhannau helaeth o ddeunydd fel eu bod yn gallu gweithredu gyda nifer fechan o staff.

"Mae'r cwmnïau mwy wedi pellhau oddi wrth y gymuned a'r darllenwyr gan gau swyddfeydd, canoli'r cynhyrchu, lleihau rhifynnau a dwi'n credu eu bod yn colli rhywbeth gwerthfawr iawn."



HEFYD
Diwedd ar werthu'r papur ar y stryd
01 Gorff 11 |  Newyddion
Rhybudd: 'Argyfwng' papurau newydd
04 Hyd 09 |  Newyddion
Papur newydd: Colli swyddi
06 Tach 07 |  Newyddion
Diwedd cyfnod ar bapurau lleol
09 Medi 08 |  Newyddion
Diwedd ar yr Herald fel papur newydd
25 Awst 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific