British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011, 19:06 GMT 20:06 UK
Milwr yn 'cynllwynio ymosodiadau rhywiol yn ofalus'

Prifysgol Morgannwg
Honnir bod un o'r achosion o drais wedi digwydd yn Neuadd Breswyl Prifysgol Morgannwg

Clywodd rheithgor bod milwr sydd wedi ei gyhuddo o dreisio myfyrwraig ym Mhrifysgol Morgannwg hefyd wedi cynllwynio "yn ofalus iawn" ymosodiadau rhywiol ar dair merch yn eu harddegau yn Sir Wiltshire.

Roedd Jonathan Haynes yn crwydro strydoedd Chippenham yn chwilio am ddioddefwyr i'w llusgo i'w gar yn ôl yr erlyniad yn Llys y Goron Bryste.

Mae Mr Haynes, 30 oed, o Northampton, yn gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Mae Mr Haynes, 30 oed o Northampton, yn pledio'n ddieuog i chwe chyhuddiad o dreisio, dau o herwgipio a dau o geisio herwgipio.

Clywodd y llys ddydd Gwener fod Mr Haynes yn cynllunio'n fanwl cyn mynd ati i ymosod.

Lluniau

Dywedodd yr erlyniad y byddai'n gyrru o amgylch Chippenham, yn chwilio am bobl cyn rhoi ei balaclafa du a menig ymlaen.

Fe fyddai wedyn yn gafael ynddyn nhw gerfydd eu gwddw a'u llusgo i'w gar cyn gyrru i le diarffordd i'w treisio.

Clywodd y llys hefyd ei fod yn tynnu lluniau ohonyn nhw.

Yn ôl yr erlyniad roedd o'n eu gorfodi i ymolchi wedi'r ymosodiad i gael gwared ar unrhyw dystiolaeth fforensig.

Wrth agor yr achos ar ran yr erlyniad, dywedodd Ian Lawrie QC, wrth y rheithgor bod y dystiolaeth yn dangos mai'r dyn sy'n gyfrifol am y troseddau ydi Mr Haynes.

Fe ddigwyddodd yr herwgipiad a'r trais cyntaf ar Fedi 13 2009 yn Chippenham.

Mae Mr Haynes wedi ei gyhuddo o dreisio myfyriwr yn neuadd preswyl Prifysgol Morgannwg ym Mhontypridd 13 niwrnod yn ddiweddarach.

Ym mis Chwefror 2010 honnir iddo geisio cipio drwy ferch 14 oed o lon wledig ger Chippenham.

Symudiadau

Wythnosau yn ddiweddarach mae o wedi ei gyhuddo o herwgipio merch 17 oedi oddi ar y stryd yn Chippenham a'i threisio sawl tro.

Ar gyfer yr ymosodiad cyntaf, meddai Mr Lawrie, roedd Mr Haynes yn gyrru car Audi oedd wedi ei logi.

Roedd 'na system GPS ynddo, er nad oedd Mr Haynes yn ymwybodol o hyn.

Ar ôl iddo gael ei arestio, dywedodd Mr Lawrie fod yr heddlu wedi ymchwilio i'w symudiadau a chanfod ei fod wedi bod yn crwydro'r strydoedd yn Chippenham yn ystod oriau man mis Gorffennaf a mis Awst.

Derbyniodd y rheithgor dystiolaeth mawl iawn o'r ddyfais GPS oedd yn nodi symudiadau Mr Haynes.

Fe wnaeth yr heddlu archwilio ffôn symudol Mr Haynes a oedd yn gallu nodi ym mha ardal oedd o pan gafodd yr ymosodiadau eu cyflawni.

Wrth gyfeirio at yr ymosodiad yn Nhrefforest, clywodd y rheithgor bod Mr Haynes wedi treisio'r fyfyrwraig y tu mewn i un o'r neuaddau preswyl.

Roedd y fyfyrwraig 18 oed wedi bod allan yn ystod wythnos y glas ac yn cysgu ar fatres aer ar lawr ystafell ffrind.

"Fe gafodd hi ei deffro gan olau ffôn symudol yn ei hwyneb a chyllell yn cael ei bwyso ar ei gwddw," meddai Mr Lawrie.

"Fe wnaeth yr ymosodwr ei gorfodi i dynnu ei dillad ac fe wnaeth o ei threisio.

"Roedd o'n ei bygwth hi oni bai y byddai'n cydymffurfio."

Pontypridd

Dywedodd Mr Lawrie wrth y rheithgor fod Mr Haynes wedi ei gorfodi i gael cawod a golchi'r dillad gwely yn y gawod hefyd.

Clywodd y llys bod Mr Haynes yn adnabod Pontypridd ar ôl cyfnod yn gweithio yno ac roedd yn cael perthynas achlysurol gyda merch yn y dref.

Dywedodd Mr Haynes wrth yr heddlu ei fod wedi gwneud ymweliad annisgwyl â'i gariad ar noson yr ymosodiad.

Yn ôl yr erlyniad roedd archwiliad o'i ffôn yn ei leoli ar Gampws Trefforest yr union amser pan ymosodwyd ar y fyfyrwraig.

Clywodd y llys bod yr heddlu wedi archwilio cyfrifiadur Mr Haynes.

Dywed yr erlyniad iddo wneud nifer o ymholiadau ar dudalen Google oedd yn ymwneud â'r ymosodiadau, gan gynnwys 140 ymholiad ar y trais yn y Neuadd Breswyl.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific