Ni fydd Abertawe a Chaerdydd yn ôl yn y gystadleuaeth am Gwpan Cymru'r tymor nesa. Roedd son yn gynharach y flwyddyn y byddai'r timau yn dychwelyd i'r gystadleuaeth am y tro cynta' ers 1995. Ond mae Wrecsam, enillwyr 1995, wedi penderfynu cymryd rhan. Mae Casnewydd a Merthyr hefyd yn dychwelyd ond nid felly Bae Colwyn, y timau eraill sy'n chwarae mewn cynghreiriau yn Lloegr. Does dim sicrwydd y bydd gan Wrecsam, Casnewydd neu Ferthyr yr hawl i gynrychioli Cymru yn Ewrop pe bai nhw'n digwydd ennill Cwpan Cymru. Dywedodd Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru, eu bod nhw'n dal i drafod gydag UEFA.
|