British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011, 15:58 GMT 16:58 UK
'Fferm wynt uchaf': Ennill adolygiad barnwrol

fferm wynt
Y bwriad oedd codi 19 o dyrbeini gwynt hyd at 127 metr o uchder

Mae cwmni ynni wedi ennill adolygiad barnwrol yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod cais cynllunio ar gyfer fferm wynt ar dir comin yn Abertawe.

Barnodd Mr Ustus Beatson y dylai apêl cynllunio cwmni RWE npower ar gyfer Mynydd y Gwair gael ei hailystyried.

Petai wedi cael sêl bendith, fferm wynt Mynydd y Gwair ger Felindre fyddai'r un dalaf yng Nghymru.

Roedd cwmni RWE npower renewables wedi gobeithio cael hawl i godi 19 o dyrbinau hyd at 127 metr o uchder ar y safle.

Argymell gwrthod

Ym mis Chwefror eleni fe wnaeth Gweinidog Amgylchedd Cymru ar y pryd, Jane Davidson, wrthod y cais cynllunio.

Roedd Arolygiaeth Cynllunio Cymru wedi argymell gwrthod apêl gan y cwmni i godi'r fferm wynt rhyw wyth milltir i'r gogledd o Abertawe.

Mae tyrbinau gwynt wedi mwy na dyblu mewn uchder ers i'r cynta' gael ei godi yng Nghymru yn 1992.

Cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus yr haf diwetha' i apêl cwmni RWE npower yn erbyn Cyngor Abertawe, oedd wedi penderfynu gwrthod caniatâd cynllunio.

Roedd yr arolygiaeth wedi argymell gwrthod yr apêl, a chytunodd y Gweinidog Amgylchedd.

Ond ddydd Gwener dywedodd y barnwr bod y rhesymeg yn ddiffygiol.



HEFYD
Gwrthod cais 'fferm wynt uchaf Cymru'
22 Chwef 11 |  Newyddion
Ymchwiliad fferm wynt ar fin dod i ben
06 Awst 10 |  Newyddion
Protestio'n erbyn fferm wynt
28 Awst 04 |  Newyddion
Datgelu manylion cynllun fferm wynt
13 Mai 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific