British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 08:07 GMT 09:07 UK
Pobol y Brifwyl: Aled Lewis Evans

Mae Newyddion Arlein BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda nifer o bobl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar drothwy'r Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro eleni. Alys Lewis gafodd sgwrs gydag Aled Lewis Evans, Cadeirydd Pwyllgor Llên 2011.



Aled Lewis Evans
Mae Aled yn ymwybodol y bydd yn wythnos hir ond yn un pleserus ar y Maes

Mae Eisteddfod Genedlaethol 2011 wedi bod ar feddwl Aled Lewis Evans am y ddwy flynedd diwetha'.

Fel cadeirydd y Pwyllgor Llên mae o wedi bod yn gyfrifol am drefnu rhaglen digwyddiadau'r Babell Lên yn ogystal â llunio'r testunau llenyddol.

"Mae wedi bod yn ddwy flynedd lle mae o wastad yng nghefn dy feddwl di achos ti am iddo fod yn iawn," meddai.

Ond mae'n hapus bod ganddo raglen ddifyr ar gyfer y Babell Lên.

"'Dan ni 'di ceisio cofio pobl lleol yn y rhaglenni.

"Criw o Ddyffryn Ceiriog, un o ardaloedd mwyaf naturiol Gymraeg y sir, oedd yn agor y rhaglen."

Amrywiaeth

Mae Aled yn gobeithio bydd y rhaglen yn apelio at bobl o bob oedran.

Fe fydd un o'r sesiynau, Y stori tu ôl i'r gân, yn edrych ar waith pedwar o bobl lleol sy'n ysgrifennu caneuon, gan gynnwys Geraint Lovgreen a Daniel Lloyd.

"'Dan ni wedi ceisio cael agweddau sy'n neud y rhaglen ychydig yn llai ffurfiol," esboniodd.

Mae Aled yn cofio'n glir y tro diwetha' y daeth yr Eisteddfod i Wrecsam yn 1977.

"'On i yn y Babell Lên yn 16 oed.

"Dwi'n falch es i achos es i i bob Eisteddfod wedi hynny!"

Mae Aled yn byw yng nghanol Wrecsam ac yn falch o weld yr Eisteddfod yn dychwelyd i'r dre.

"Dwi'n meddwl ei bod hi, nid yn unig yn hwb i Gymry Cymraeg yr ardal ond, yn y digwyddiadau codi arian, mae Cymry Cymraeg a di-Gymraeg wedi gweithio gyda'i gilydd yn dda iawn.

"Mae 'na lot o ewyllys da yma."

Mae Aled yn rhagweld gwaith caled yn ystod yr wythnos ac yn edrych ymlaen at fynd i'r cyngherddau yn y nos i ymlacio.

Er yr holl waith dywedodd iddi fod yn fraint gweithio i'r Eisteddfod.

"Dyma'r adeg i rai fy oedran i gyfrannu rhywbeth," meddai.

"Ond mae'n dda hefyd gweld pobl mwy ifanc yn cymryd rhan yn y pwyllgorau ac yn codi arian.

"Mae'n rhoi hyder y bydd 'na bobl i gario'r gwaith ymlaen yn y dyfodol."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific