British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2011, 05:58 GMT 06:58 UK
Llai o stondinau yn Llanelwedd?

Ceffylau yn y Sioe Fawr
Fe wnaeth cyfanswm o 230,766 o bobl ymweld 'r sioe y llynedd

Wrth i'r esgid wasgu mae nifer o sefydliadau wedi penderfynu cael llai o bresenoldeb, neu dynnu'n ôl yn gyfangwbl o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd eleni.

Yn absennol o'r Sioe eleni fydd stondinau Parciau Cenedlaethol Cymru ac Asiantaeth yr Amgylchedd.

Er y byddant yn bresennol, dywed y Comisiwn Coedwigaeth eu bod yn torri'n ôl.

Mae'r sioe pedwar diwrnod ar drydedd wythnos mis Gorffennaf yn denu dros 200,0000 o ymwelwyr.

Dywedodd John Cook, ysgrifennydd Parciau Cenedlaethol Cymru a phrif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, fod y parciau yn gefnogol i'r Sioe.

Sefyllfa economaidd

"Ond dros y 12 mis diwethaf mae'r sefyllfa economaidd yn golygu bod yn rhaid torri'n ôl ar gostau.

"Hefyd mae'r sefyllfa yn golygu ein bod wedi edrych o'r newydd ar y modd rydym yn cysylltu â'r cyhoedd."

Dywedodd y byddai gan Barc Cenedlaethol Eryri bresenoldeb ym mhafiliwn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru na fydd ganddynt stondin yn y sioe eleni.

"Yn hytrach na chael un stondin fel yn y blynyddoedd a fu, rydym am ganolbwyntio'n fwy ar siarad yn uniongyrchol â ffermwyr.

'Llai o arian'

"Bydd ein staff felly yn y sioe ac yn ymweld â stondinau'r undebau amaethyddol."

Ni fydd gan Cadw Cymru'n Daclus stondin yn y sioe eleni.

"Bydd gan y mudiad lai o bresenoldeb eleni yn bennaf oherwydd, fel nifer o elusennau eraill, mae yna lai o arian," meddai llefarydd.

Dywed y Comisiwn Coedwigaeth y byddant â llai o bresenoldeb.

"Eleni bydd yn rhaid cwtogi ar rai o'n gweithgareddau fel darparu pecynnau addysg ar gyfer ymwelwyr ifanc," meddai llefarydd ar ran y Comisiwn.

"Bydd hyn yn ein galluogi i ganolbwyntio ar ddarparu gwybodaeth i bobl ynglŷn â Grant Creu Coetir Glastir."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific