British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2011, 05:44 GMT 06:44 UK
Penderfynu ar geisiadau i godi ffioedd atodol

Myfyrwyr
Mae chwech o brifysgolion am gael codi hyd at £9,000

Bydd y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio prifysgolion Cymru yn penderfynu ddydd Llun a ydynt yn fodlon â'r ffioedd mae'r sefydliadau am godi ar fyfyrwyr.

Mae chwech o brifysgolion yn gobeithio codi'r uchafswm o £9,000.

Ym mis Mehefin penderfynodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i wrthod pob un cais gan sefydliadau addysg uwch Cymru i godi ffioedd atodol.

Roedd yn rhaid i bob coleg neu brifysgol oedd yn bwriadu codi mwy na £4,000 gael sêl bendith y Cyngor Cyllido.

Dywedodd y Cyngor na fyddai'n rhoi sêl bendith i'r cynlluniau oni bai fod gwelliannau yn cael eu cynnig.

Mae angen i'r cynlluniau amlinellu ymrwymiad pob prifysgol i ehangu mynediad a gwella profiad myfyrwyr.

Pe bai'r Cyngor yn penderfynu gwrthod ceisiadau'r sefydliadau, yna bydd uchafswm o £4,000 ar y ffioedd y gall y brifysgol neu'r sefydliad ei godi ar eu myfyrwyr.

Ymhlith y prifysgolion sydd wedi gwneud ceisiadau i godi ffioedd o £9,000 ar eu myfyrwyr o Fedi 2012 ymlaen y mae Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Casnewydd a Morgannwg.

Y gred yw bod pob prifysgol â champws yng Nghymru wedi cyflwyno'u cynlluniau.

Ar y pryd dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, ei fod o'n cymeradwyo penderfyniad y Cyngor i wrthod cynlluniau'r sefydliadau addysg uwch.



HEFYD
Prifysgol arall yn cyflwyno ffioedd
01 Meh 11 |  Newyddion
Mwy o brifysgolion am godi £9,000
31 Mai 11 |  Newyddion
Caerdydd: Ffioedd o £9,000
24 Mai 11 |  Newyddion
Aberystwyth: Ffioedd o £9,000?
09 Mai 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific