British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011, 07:03 GMT 08:03 UK
Tour: Thomas yn arwain wrth ennill cymal

Edvald Boasson Hagen
Cafodd Edvald Boasson Hagen ei arwain i'r blaen gan Geraint Thomas

Chwaraeodd y Cymro Geraint Thomas rhan flaenllaw ym muddugoliaeth gyntaf Team Sky yn y Tour De France eleni.

Thomas wnaeth y gwaith o arwain Edvald Boasson Hagen i'r brig yn y chweched cymal o Dinan i Lisieux - cymal hiraf y ras eleni - mewn glaw trwm iawn ar adegau.

Yn ogystal â chynorthwyo'i dim i ennill y cymal, mae Thomas yn dal ei afael ar y siwmper wen am seiclwr ifanc (dan 25 oed) gorau'r ras, ac yn seithfed yn y Tour yn ei chyfanrwydd.

Thor Hushovd sy'n cadw'r siwmper felen, ac mae Thomas 12 eiliad y tu ôl iddo.

Dywedodd Thomas: "Mae hi wedi bod yn ddechrau gwych i'r tîm, ac roedden ni'n gwybod ei bod hi'n bosib gwneud rhywbeth heddiw.

"Fe wnes i fy ngorau, ac fe wnaeth Edvard orffen y gwaith yn berffaith.

"Fe wnaeth y tîm i gyd chwarae rhan yn y fuddugoliaeth - roedd hi'n ymdrech ffantastig."

Cymal 6 :

1. Edvard Boasson Hagen (Sky)

2. Mathew Goss

3. Thor Hushovd

Tour De France :

1. Thor Hushovd - 22 awr, 50 munud, 34 eiliad

2. Cadel Evans - +1"

3. Frank Schleck - +4"

7. Geraint Thomas - +12"



HEFYD
Tour: Thomas yn bumed
06 Gorff 11 |  Newyddion
Tour: Siom i Thomas
05 Gorff 11 |  Newyddion
Thomas yn cadw'r siwmper wen
04 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific