Cafodd bron 10,000 o baneli solar eu gosod ar gyfer y cynllun
|
Mae disgwyl i barc solar cyntaf Cymru ddechrau cynhyrchu trydan yn ddiweddarach ddydd Gwener ar stad Rhosygilwen yn Sir Benfro. Cafodd bron 10,000 o baneli solar eu mewnforio o'r Unol Daleithiau a'u gosod mewn 12 rhes ar gae chwe erw. Bydd y buddsoddiad £2.5 miliwn yn weithredol tair wythnos cyn i lywodraeth y DU leihau'r cymhorthdal i fuddsoddwyr mawr mewn ynni haul. Gobaith y perchnogion, Western Solas, yw dyblu maint y cynllun. Pensiwn Dywedodd perchennog y safle, Dr Glen Peters: "Mae 10,000 o baneli yma. Dyma'r dechnoleg ddiweddaraf o'r Unol Daleithiau. "Maen nhw'n gymwys i'r hinsawdd yma o awyr gymylog ar y cyfan." Roedd ganddo ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad dwywaith y maint presennol, ond bu'n rhaid iddo ailfeddwl. "Doedd dim arian ar gael gan y banciau. Roedd rhaid i mi wedyn gymryd cam mawr a dweud 'o'r gorau - fe wnawn ni haneru maint y cynllun a gwneud datblygiad 1 Megawatt (MW) i gychwyn' ac yn y bôn cymryd arian o fy nghynllun pensiwn." Mae ceisiadau am barciau solar eraill yng Nghynheidre a Ffos Las yng ngorllewin Cymru yn mynd drwy'r broses gynllunio ar hyn o bryd. Cymhorthdal Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd y llywodraeth wedi dweud fod y cymhorthdal i ffermydd solar mawr yn cael ei leihau o Awst 1. Bydd ffermydd dros 250 kiloWatt (kW) hyd at 5 MW yn cael hawlio 8.5 ceiniog am bob kW/awr. I gynlluniau rhwng 150 a 250 kW, y tal fydd 15c, ac i rai rhwng 50 a 150 kW - 19c. Gyda'r diwydiant ynni haul yn tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf o gynhyrchu 4 MW ym Mhrydain i 96MW, mae Dr Owen Guy o Brifysgol Abertawe yn credu fod pryderon y bydd yr ehangu yma'n arafu. Dywedodd: "Mae'r cymhorthdal yn dal ar gael i gynlluniau bach. "Gall unigolion osod sustem 4 kW ar eu cartrefi a pharhau i gael arian da am eu buddsoddiad. "Ond ni fydd cwmnïau mawr yn gallu gwneud yr un elw ag y maen nhw wedi bod yn ei wneud."
|