British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011, 14:31 GMT 15:31 UK
Biliau nwy yn codi 18%

Rheolydd gwres canolog
Mae'r cwmni'n rhoi'r bai ar gynnydd mewn costau cyfanwerthol

Fe fydd prisiau Nwy Prydain yn codi ym mis Awst, ar gyfartaledd o 18% am nwy ac 16% am drydan.

Bydd hynny'n golygu biliau o ryw £200 yn fwy bob blwyddyn i'r 9m o gartrefi sy'n gwsmeriaid i Nwy Prydain.

Mae'r cwmni'n rhoi'r bai ar gynnydd mewn costau cyfanwerthol.

Ond yn ôl Mike O'Connor, prif weithredwr Llais Defnyddwyr: "Mae costau cyfanwerthol wedi mynd i fyny ond maen nhw yn dal i fod traean yn llai nag oedden nhw yn 2008.

"Yn y cyfamser mae prisiau Nwy Prydain wedi codi tua 44% o ran nwy a 21% o ran trydan ac mae cyflenwyr wedi gwneud elw da".

Ym mis Chwefror eleni fe gyhoeddodd Nwy Prydain eu bod wedi gwneud mwy o elw nag erioed o'r blaen y llynedd, sef £742m.

Roedd hynny 24% yn fwy na'r flwyddyn gynt.

Strategaeth

Y llynedd fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth newydd i fynd i'r afael â thlodi tanwydd.

Yn ogystal ag amlinellu sut i ddod â rhai o gymunedau lleiaf breintiedig Cymru allan o dlodi tanwydd, mae'r strategaeth yn anelu at dargedau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd.

Mae tlodi tanwydd mewn cartref sy'n gwario mwy na 10% o incwm y tŷ (gan gynnwys budd-dal tai) ar danwydd i gynhesu'r tŷ yn ddigonol.



HEFYD
Nwy: Mwy o elw nag erioed
24 Chwef 11 |  Newyddion
Diddymu tlodi tanwydd yw'r nod
23 Gorff 10 |  Newyddion
Tlodi tanwydd: Rhybudd elusennau
20 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific