British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 8 Gorffennaf 2011, 13:39 GMT 14:39 UK
Clod i brif gynghorydd gwyddonol Cymru gan Nasa

Yr Athro John Harries
Mae'r Athro Harries yn ffisegydd atmosfferig

Mae Prif Gynghorydd Gwyddonol cyntaf Cymru wedi ennill un o anrhydeddau mwyaf Gweinyddiaeth Genedlaethol Aeronoteg a Gofod (Nasa) yr Unol Daleithiau.

Cydnabod gwasanaeth cyhoeddus yr Athro John Harries, sy'n wreiddiol o Aberafan, wrth hyrwyddo gwybodaeth am atmosffer y ddaear a'r newid yn yr hinsawdd y mae'r anrhydedd.

Y Fedal Gwasanaeth Cyhoeddus Nodedig yw'r anrhydedd fwyaf y bydd Nasa yn ei dyfarnu i rywun nad oedd yn gyflogedig gan lywodraeth yr Unol Daleithiau ar yr adeg y gwnaed y cyfraniad.

Rhaid i'r cyfraniad fod mor eithriadol na fyddai gwobrau eraill sydd gan Nasa i'w rhoi i gydnabod cyfraniad nodedig yn ddigonol.

Mae'r Athro Harries, sy'n ffisegydd atmosfferig, wedi bod yn gweithio ar dechnolegau synhwyro o bell ac mae wedi gwneud nifer o ddarganfyddiadau gwyddonol sydd wedi cyfrannu'n fawr at gyrraedd nod Nasa o wella ein gwybodaeth am atmosffer y Ddaear a system yr hinsawdd.

Gwnaeth gyfraniad arbennig o amlwg wrth arwain tîm a fu'n gyfrifol am gynhyrchu'r dystiolaeth uniongyrchol gyntaf sy'n deillio o arsylwadau am y cynnydd yn effeithiau tŷ gwydr y ddaear.

'Cydnabod yn rhyngwladol'

Dywedodd yr Athro Harries bod hi'n "anrhydedd ac yn faint" derbyn y wobr.

"Hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i'm cydweithwyr ym mhob cwr o'r byd y bûm yn ddigon ffodus i weithio gyda nhw dros y blynyddoedd - ffrindiau a chydweithwyr yng Nghanolfan Ymchwil Langley Nasa yn Virginia yn arbennig.

"Mae'r wobr hon yn dyst i'w hymrwymiad, eu hymroddiad a'u hagwedd broffesiynol tuag at hybu ein dealltwriaeth o wyddoniaeth ac i ddarganfod cynifer o atebion i rai o gwestiynau mwyaf dyrys gwyddoniaeth ein hoes - datblygu ein gwybodaeth am atmosffer y Ddaear a'n system hinsawdd yn eu plith."

Dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, ei fod yn falch iawn fod llwyddiant Yr Athro Harries yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol.

"Mae'n llawn haeddu'r wobr yma gan NASA.

"Yn ogystal â bod yn gydnabyddiaeth o'r hyn y mae ef ei hun wedi'i gyflawni, mae hefyd yn acolâd i Gymru ac i Lywodraeth Cymru ein bod yn gallu manteisio ar gyngor gwyddonydd mor amlwg sy'n cael ei gydnabod ar y llwyfan rhyngwladol."

Dywedodd fod Yr Athro Harries, fel Prif Ymgynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru wedi arwain, annog a chefnogi eu holl wyddonwyr yn eu gwaith.

"Fel Llywodraeth, rydym yn cydnabod pwysigrwydd denu a defnyddio ein hymchwilwyr gorau, masnacheiddio ymchwil er mwyn adeiladu economi sy'n gryfach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer Cymru ochr yn ochr â datblygu a chynnal y sgiliau gwyddonol a thechnegol i wneud hynny'n llwyddiannus," ychwanegodd.

Swyddogaeth y Prif Gynghorydd Gwyddonol yw rhoi cyngor gwyddonol i'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru, hybu gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg a rôl gwyddoniaeth o fewn yr economi wybodaeth ehangach.

Cychwynodd ar ei waith ar Fai 1 2010.



HEFYD
Prif gynghorydd gwyddonol cyntaf
02 Chwef 10 |  Newyddion
'Lle i boeni am newid hinsawdd'
30 Tach 09 |  Newyddion
Cnydau GM: Tynhau rheolau?
30 Meh 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific