British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011, 20:00 GMT 21:00 UK
Hunangofiant Ned Thomas yw Llyfr y Flwyddyn 2011

Ned Thomas
Bydoedd: 'Hunangofiant rhyfeddol mewn arddull waraidd'

Bydoedd gan Ned Thomas sydd wedi ennill adran Gymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn.

Nos Iau mewn seremoni yn Cineworld, Caerdydd, cyflwynodd Dai Smith, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, siec o £10,000 i'r awdur.

Y ddwy gyfrol arall ar y rhestr fer oedd Caersaint gan Angharad Price a Lladd Duw gan Dewi Prysor.

Gwasg Y Lolfa a gyhoeddodd y tair cyfrol.

Y beirniaid ar y panel Cymraeg eleni oedd Simon Brooks (Cadeirydd), Gerwyn Williams a Kate Crockett.

'Campwaith'

Dywedodd y beirniad a'r darlithydd, Simon Brooks, "Mae Bydoedd Ned Thomas yn gampwaith.

"Dyma hunangofiant rhyfeddol mewn arddull waraidd, yn bwrw golwg ar hanes Ewrop a Chymru ers yr Ail Ryfel Byd.

"Cymro gwlatgar yw Ned, ond nid ar gyfer y Gymru fewnblyg mae'n ysgrifennu.

"Wedi'i nodweddu gan dreiddgarwch hynod, mae Ned yn manteisio ar ei brofiadau rhyngwladol i'r eitha, gan ddadansoddi lle Cymru yn y byd.

"Gyda sylwgarwch cymdeithasol ar bob tudalen bron, dyma hunangofiant Cymraeg gorau'r ganrif."

Awdur, beirniad ac ymgyrchwr diwylliannol yw Ned Thomas. Fe gafodd ei fagu yng Nghymru, Lloegr, yr Almaen a'r Swistir.

Bu'n gweithio fel newyddiadurwr a hefyd fel darlithydd mewn prifysgolion yn Sbaen a Rwsia.

Planet

Pan oedd yn ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Aberystwyth sefydlodd a bu'n olygydd y cylchgrawn Planet. Bu wedyn yn Gyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru a heddiw mae'n Llywydd Canolfan Mercator yn y brifysgol.

Caersaint; Bydoedd Ned Thomas a Lladd Duw
Y tair cyfrol yma oedd ar y Rhestr Fer 2011

Fe yw cadeirydd cwmni Dyddiol Cyf a sefydlwyd i geisio creu papur newydd dyddiol Cymraeg, Y Byd.

Dywedodd Kate Crockett: "Y peth gorau am feirniadu'r gystadleuaeth eleni oedd bod cynifer o lyfrau da o dan ystyriaeth, ac roedd dewis y deg ar gyfer y rhestr hir yn dipyn o gamp.

"Rydym fel beirniaid yn arbennig o falch o'r tri llyfr ddaeth i'r brig ar y rhestr fer - gallai unrhyw un o'r tri fod wedi ennill ac mae hynny'n gyffrous dros ben.

"Wedi darllen yr holl lyfrau a oedd yn gymwys eleni, mae'n braf gallu dweud bod y byd cyhoeddi Cymraeg mewn cyflwr iach dros ben, a gallwn ymfalchïo yn safon ac amrywiaeth y llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf."

'Gwych'

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru: "Mae Llyfr y Flwyddyn yn wobr wych sy'n rhoi llwyfan teilwng i lenyddiaeth Cymru heddiw.

"Mae'r gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth, y seremoni ar ei newydd wedd eleni, categoreiddio flwyddyn nesaf … pwy a ŵyr beth sydd ar y gorwel i Llyfr y Flwyddyn?"

Yr enillydd Saesneg yw John Harrison am ei gyfrol Cloud Road (Parthian).

Dewi Prysor gipiodd Wobr Barn y Bobl Golwg 360 am ei nofel Lladd Duw (Y Lolfa).

Ers cyhoeddi'r rhestr hir o 10 teitl ddiwedd Ebrill, mae'r cyhoedd wedi bod yn pleidleisio i'w ffefryn nhw.

Tyler Keevil enillodd Wobr Barn y Bobl Media Wales am ei gyfrol Fireball (Parthian).

Llenyddiaeth Cymru sy'n gweinyddu'r wobr a Chyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Llyfrau Cymru a Llywodraeth Cymru sy'n ei hariannu.



HEFYD
'Amrywiaeth o lyfrau' ar restr hir
13 Ebr 11 |  Newyddion
Mwy na 85% o blaid dyfodol Y Byd
31 Ion 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific