British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011, 16:41 GMT 17:41 UK
Llofruddiaeth Llanidloes: Dyn yn y ddalfa

Lewis Clarke
Roedd Lewis ar fin ymuno gyda'r Llynges

Mae dyn 20 oed yn y ddalfa ar ôl bod yn Llys Ynadon Llanidloes ddydd Iau ar gyhuddiad o lofruddio Lewis Clarke, 19 oed.

Bydd Blaine Kirkham o'r Drenewydd yn cael ei gadw yn y ddalfa tan Fedi 16.

Fe fu farw Mr Clarke yn Llanidloes nos Sadwrn wedi ymosodiad yn Nhŷ Pumlumon yn y dref.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Amwythig ond bu farw'n ddiweddarach.

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, 01267 222020, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.



HEFYD
Llofruddiaeth: Mwy o amser i holi
04 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific