British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011, 13:08 GMT 14:08 UK
Lynette White: Heddlu wedi 'bwlio' tystion

Lynette White
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 gwaith yn ei fflat

Fe wnaeth wyth cyn-swyddog gyda'r heddlu "fwlio" tystion i roi tystiolaeth ffug arweiniodd at gyhuddo ac achos llys yn erbyn pum dyn dieuog o lofruddio'r butain Lynette White.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod yr heddlu oedd yn ymchwilio i'w llofruddiaeth wedi cychwyn polisi o "orfodi tystion i gyffesu".

Cafodd tri dyn, oedd yn cael eu hadnabod fel Tri Caerdydd, eu dedfrydu am lofruddio Ms White, 20 oed, yn 1988, cyn cael eu rhyddhau yn ddieuog ar ôl apêl.

Mae'r swyddogion yn gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae'r achos yn parhau.

Cafodd Ms White ei thrywanu i farwolaeth mewn fflat uwchben siop betio yn ardal dociau Caerdydd ar Chwefror 14 1988.

CYHUDDIADAU
GRAHAM MOUNCHER (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
THOMAS PAGE (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
RICHARD POWELL (Cyn Uwch-arolygydd wedi ymddeol)
JOHN SEAFORD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
MICHAEL DANIELS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PETER GREENWOOD (Cyn-Dditectif Cwnstal wedi ymddeol)
PAUL JENNINGS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL STEPHEN (Cyn-Sargant wedi ymddeol)
Yr uchod yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae Mr Mouncher hefyd yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.
VIOLET PERRIAM a IAN MASSEY yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Dywedodd yr erlyniad bod y tri gafodd eu carcharu, Stephen Miller, Tony Paris a Yusef Abdullahi - sydd erbyn hyn wedi marw - am drosedd nad oedden nhw'n gyfrifol amdani.

Cafodd y tri eu rhyddhau ar apêl yn 1990.

Fe wnaeth dyn arall, Jeffrey Gafoor, gyfadde i lofruddio Ms White yn 2003 ac mae o wedi cael ei garcharu am oes.

Dydd Iau clywodd y llys bod yr heddlu wedi mabwysiadu'r "polisi bwriadol oedd yn anelu at orfodi tystion i gyffesu".

Dywedodd Nicholas Dean QC ar ran yr erlyniad mai'r hyn yr oedden nhw'n ei wneud oedd ffugio tystiolaeth oedd yn gyson a'i fersiwn nhw o'r hyn ddigwyddodd iddi hi.

"Doedden nhw ddim yn ymchwilio go iawn i'r llofruddiaeth, doedden nhw ddim yn cadw meddwl agored am bwy laddodd Lynette."

Mae'r wyth cyn-swyddog yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae un ohonyn nhw a dau arall oedd yn gweithio i'r heddlu ond ddim heddweision yn gwadu cyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
'Wyth wedi ffugio tystiolaeth'
06 Gorff 11 |  Newyddion
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific