British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011, 08:49 GMT 09:49 UK
Pobol y Brifwyl: Cledwyn Ashford

Mae Newyddion Arlein BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda nifer o bobl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar drothwy'r Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro eleni. Alys Lewis gafodd sgwrs gyda Phrif Stiward Eisteddfod 2011, Cledwyn Ashford.



Cledwyn Ashford
Mae gan Cledwyn Ashford gyfrifoldeb ar gyfer dros 300 o stiwardiaid

Mae gwaith y Prif Stiward yn cychwyn ymhell cyn i'r Eisteddfod ddechrau.

"Rydyn ni'n stiwardio cyn i'r eisteddfod ddechrau, yn gwneud yn siwr fod pawb yn ddiogel," meddai Cledwyn Ashford.

Dyma'r trydydd tro iddo fod yn Brif Stiward ac mae ganddo gyfrifoldeb am tua 300 i 400 o stiwardiaid eraill yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Cyn hynny, mae angen gwneud yn sicr bod pob un o'r stiwardiaid lleol yn ymwybodol o'i ddyletswyddau.

"Rydyn ni'n stiwardio popeth sydd ymlaen gan gynnwys y Pafiliwn, y Babell Lên, Theatr y Maes, y theatr ddawns ac yn y blaen.

"Hefyd rydyn ni'n edrych ar ôl y mynedfeydd ac yn gofalu am iechyd a diogelwch, helpu pobl i ffeindio'u seti a chroesawu pobl i'r Eisteddfod.

"Mae rhai ohonon ni'n gweithio o 7am tan 11pm - mae'n wythnos hir."

Gwely fy hun

O leiaf y flwyddyn yma fydd Cledwyn, sy'n byw ym mhentref Cefn-y-Bedd yn Sir y Fflint, ddim yn bell o gartref.

"Mae'n neis bod o'n lleol," meddai.

Cledwyn Ashford yn cael sgwrs efo Nia Lloyd Jones o Radio Cymru
Fe gaidd Cledwyn Ashford rhyw bum munud o seibiant i gael sgwrs a darllen papur newydd

"Bydda' i'n medru cysgu yn fy ngwely fy hun bob nos a theithio adre' bob dydd."

Dywedodd ei fod wedi cael croeso da yn Wrecsam.

"Mae pobl Wrecsam wedi ymateb yn dda iawn o ran stiwardio.

"Mae pobl wedi bod yn gefnogol dros ben."

Roedd Cledwyn yn awyddus i bwysleisio'r ffaith mai tîm agos o bobl yw'r stiwardiaid.

"Mae dau berson arall sy'n helpu bob blwyddyn, Iolo Povey a Emrys Jones," meddai.

"Maen nhw hefyd wrthi ers blynyddoedd.

"Bydd hi'n rhyfedd eleni gan y byddwn ni heb ein ffrind, Collwyn Williams, a gollwyd yn gynharach eleni.

"Ond fe fyddwn ni gyd fel stiwardiaid yn meddwl amdano.

"Roedd o'n gymeriad hoffus iawn."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific