British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011, 07:42 GMT 08:42 UK
Priodferch wedi ei saethu unwaith yn Antigua

Catherine a Ben Mullany
Cafodd Catherine a Ben Mullany eu lladd tra ar eu mis ml

Mae llys yn Antigua wedi clywed bod dynes ar ei gwyliau yn y Caribî wedi ei lladd gan ergyd gwn yng nghefn ei phen.

Bu farw Ben a Catherine Mullany, y ddau yn 31 oed ac o Bontardawe, ar ôl cael eu saethu tra ar eu mis mêl yn Antigua ym mis Gorffennaf 2008.

Dywedodd y patholegydd Dr Petra Miller-Nanton wrth Uwch Lys Antigua y byddai Mrs Mullany wedi marw bron yn syth.

Mae Avie Howell, 20 oed, a Kaniel Martin, 23 oed, yn gwadu llofruddiaeth ac mae'r achos yn parhau.

Ymosodwyd ar Mr a Mrs Mullany ar ddiwrnod olaf eu mis mêl.

Bu farw Mrs Mullany, a oedd yn feddyg, yn syth.

Ffôn symudol

Cafodd Mr Mullany, myfyriwr ffisiotherapi a chyn heddwas gyda Heddlu De Sir Efrog, ei gludo yn ôl i Gymru am driniaeth.

Ond bu farw Mr Mullany wythnos yn ddiweddarach yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Eglurodd Dr Miller-Nanton iddi gynnal archwiliad post mortem ar Mrs Mullany ar Orffennaf 30 2008 yn Ysbyty Holberton yn St Johns, Antigua.

Cafodd ei datganiad ei gadarnhau gan Dr Derek James, uwch ddarlithydd patholeg ym Mhrifysgol Caerdydd a wnaeth gynnal ail archwiliad post mortem ar Mrs Mullany ar Awst 5 2008.

Clywodd y llys hefyd gan Fransisca de La Cruz, dynes wnaeth ym mis Gorffennaf 2008 brynu ffôn symudol Nokia Mr Mullany oedd wedi ei ddwyn.

Tŷ diffynnydd

Dywedodd pan roddodd ei cherdyn SIM yn y ffôn bod 'na rifau ffôn Antigua ynddo yn ogystal â rhifau rhyngwladol oedd wedi eu cadw arno.

Eglurodd ei bod wedi dechrau eu dileu ac roedd 'na recordiad o ddyn a dynes yn canu a cherddoriaeth yn y cefndir.

Fe wnaeth geisio ei ddileu ond methodd.

Mewn datganiad blaenorol roedd hi wedi dweud wrth yr heddlu nad oedd hi'n adnabod y dyn wnaeth werthu'r ffôn iddi ond ei bod wedi ei weld wythnos yn ddiweddarach yn eistedd y tu allan i dŷ yn Ffordd Tindell.

Pan aeth hi â'r heddlu i'r lleoliad hwnnw, roedd y tu allan i'r tŷ oedd yn eiddo i deulu Mr Martin.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Heddlu Antigua yn clustfeinio
30 Meh 11 |  Newyddion
'Modd agor clwyd heb allwedd'
22 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Dau wedi eu saethu
14 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Priodferch: 'Ymladd am ei bywyd'
03 Meh 11 |  Newyddion
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific