British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 7 Gorffennaf 2011, 06:45 GMT 07:45 UK
Annog mwy i gynhyrchu llai o wastraff bwyd

Safle tirlenwi
Drwy ailgylchu mwy fe fydd llai o wastraff yn mynd i'r safleoedd tirlenwi

Gallai gwestai, tafarndai a thai bwyta Cymru arbed hyd at £49 miliwn y flwyddyn drwy daclo gwastraff bwyd, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad - Cyfansoddiad Gwastraff Diwydiant Lletygarwch y DU gan fudiad WRAP Cymru - yn amcangyfrif fod y sector yng Nghymru yn gyrru dros 70,000 tunnell o wastraff i safleoedd tirlenwi, a bod 77% o hynny'n ddeunydd allai gael ei ailgylchu.

Mae'n cynnwys gwastraff bwyd (41%), gwydr (14%), papur (13%) a cherdyn (9%).

Yr amcangyfrif am wastraff bwyd gan dafarndai, gwestai a thai bwyta Cymru yw 28,500 tunnell bob blwyddyn.

Petai gwastraff dianghenraid yn cael ei atal, gallai Cymru arbed 83,000 tunnell o allyriadau carbon, sy'n cyfateb i gymryd 25,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.

'Nid da lle gellir gwell'

Mae WRAP Cymru nawr yn annog busnesau yn y sector i wneud mwy i osgoi gwastraff ac i gynyddu ailgylchu.

Dywedodd pennaeth WRAP Cymru, Beth Winkley, bo hi'n glir o'r canfyddiadau bod llawer o waith wedi ei wneud gan y sector lletygarwch i leihau gwastraff i safleoedd tirlenwi, ond "nid da lle gellir gwell".

"Os yw Cymru am gyrraedd ei thargedau i fod yn genedl ddi-wastraff, rhaid i'r llywodraeth, y diwydiant, cymunedau a thrigolion weithio gyda'i gilydd i ailgylchu mwy.

"Fel rhan o'n rhaglen bwyd a diod newydd, byddwn yn gweithio tuag at gyflwyno cytundeb gwirfoddol i leihau'r maint o wastraff bwyd a phecynnu sy'n cael ei gynhyrchu gan y sector."

Mae WRAP yn gwmni dielw gafodd ei ffurfio yn 2000, ac yn cael ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r adroddiad a baratowyd yn seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod 2009.



HEFYD
Ailgylchu: Apl a rhybudd
10 Maw 11 |  Newyddion
Cosb ailgylchu i gynghorau
03 Rhag 10 |  Newyddion
10 cyngor yn methu targedau
10 Awst 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific