British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011, 16:14 GMT 17:14 UK
Tour: Geraint Thomas yn bumed

Mark Cavendish
Cavendish yn dathlu gyda Geraint Thomas yng nghrys gwyn Sky yn y cefndir

Mark Cavendish o Ynys Manaw enillodd bumed cymal y Tour de France ddydd Mercher ond roedd y Cymro Geraint Thomas yn bumed gyda'r un amser â Cavendish.

Bu nifer o ddamweiniau ar y cymal o Carhaix i Cap Frehel, ac fe gafodd nifer o seiclwyr godwm gan gynnwys pencampwr y llynedd Alberto Contador, ac arweinydd Team Sky (tîm Geraint Thomas) Bradley Wiggins.

Roedd Thor Hushovd o Norwy yn 10fed yn y cymal ac yn dal ei afael ar y crys melyn ac mae Thomas yn cadw'r crys gwyn i gystadleuydd ifanc (dan 25) gorau'r ras.

Mae Thomas 12 eiliad y tu ôl i Hushovd yn y seithfed safle.

Dydd Iau bydd y chweched cymal yn mynd i Dinan ar hyd arfordir gogleddol Ffrainc i Lisieux - cymal hir o 226.5 cilomedr.



HEFYD
Tour: Siom i Thomas
05 Gorff 11 |  Newyddion
Thomas yn cadw'r siwmper wen
04 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific