British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011, 17:59 GMT 18:59 UK
Lynette White: 'Wyth wedi ffugio achos'

Lynette White
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 gwaith yn ei fflat

Clywodd rheithgor fod wyth o gyn-swyddogion yr heddlu wedi ffugio tystiolaeth yn erbyn tri dyn dieuog wedi llofruddiaeth y butain Lynette White.

Mewn fflat yng Nghaerdydd yn 1988 y cafodd Ms White, 20 oed, ei llofruddio.

Dywedodd yr erlyniad fod y tri, a gafodd eu hadnabod fel 'Tri Caerdydd', wedi cael eu carcharu am drosedd nad oedden nhw wedi ei chyflawni.

Yn Llys y Goron Abertawe mae'r cyn swyddogion wedi gwadu cyhuddiad o gynllwynio i wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae dau berson arall yn gwadu cyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Cafwyd hyd i Ms White wedi ei thrywanu dros 50 o weithiau ar Chwefror 14 1988 yn y fflat uwchben siop betio yn ardal dociau Caerdydd - nid nepell o Ganolfan y Mileniwm erbyn heddiw.

Creu tystiolaeth

Clywodd y rheithgor nad oedd yr heddlu fawr agosach at ddatrys yr achos ar ôl naw mis o chwilio am y llofrudd.

A chlywodd y llys eu bod wedi creu achos ffug oedd yn "seiliedig i raddau helaeth ar waith dychymyg."

CYHUDDIADAU
GRAHAM MOUNCHER (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
THOMAS PAGE (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
RICHARD POWELL (Cyn Uwch-arolygydd wedi ymddeol)
JOHN SEAFORD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
MICHAEL DANIELS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PETER GREENWOOD (Cyn-Dditectif Cwnstal wedi ymddeol)
PAUL JENNINGS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL STEPHEN (Cyn-Sargant wedi ymddeol)
Yr uchod yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae Mr Mouncher hefyd yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.
VIOLET PERRIAM a IAN MASSEY yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Mae'r cyn-swyddogion wedi cael eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy gytuno i "greu, trafod, dylanwadu a chreu tystiolaeth ffug".

Dywedodd Nicholas Dean QC ar ran yr erlyniad wrth y llys bod holl weithredoedd y swyddogion ar y cyd yn gyfrifol am garcharu tri dyn dieuog.

Yn 1990 cafwyd Stephen Miller, Tony Paris a Yusef Abdullahi - sydd erbyn hyn wedi marw - yn euog o lofruddiaeth.

Cafodd y cefndryd Ronnie a John Actie, a wynebodd yr un achos, eu rhyddhau.

Ar ôl apêl yn 1992 cafodd Tri Caerdydd eu rhyddhau.

Roedd y tri wedi honni o'r cychwyn fod y dystiolaeth yn eu herbyn yn ffug.

Yn 2003 fe wnaeth Jeffrey Gafoor, client i Ms White, bledio'n euog i'w llofruddiaeth ac fe gafodd ei garcharu am oes.

Mae'r tri dyn sy'n wynebu'r achos yma yn gyn-uwch swyddogion sydd wedi ymddeol: Prif Arolygydd Thomas Page; Prif Arolygydd Graham Moucher a'r Uwch-arolygydd Richard Powell.

Mae'r pump arall hefyd wedi ymddeol: Michael Daniels, Peter Greenwood; John Seaford; Paul Jennings a Paul Stephen.

Chwe mis

Roedd Mr Jennings a Mr Stephen yn dal i weithio pan gawson nhw eu harestio.

Fe gafodd yr wyth eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Jeffrey Gafoor
Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu am oes ar l pledio'n euog i'r llofruddiaeth yn 2003

Mae Violet Perriam a Ian Massey, gyda Mr Moucher, yn wynebu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Eisoes mae'r 10 wedi gwadu'r cyhuddiadau.

Mae pedwar cyn-heddwas arall hefyd wedi eu cyhuddo ar y cyd o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac fe fyddan nhw'n wynebu achos arall y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu eu bod yn credu mai dyma'r achos mwyaf o'i fath yn erbyn swyddogion yr heddlu yn hanes cyfreithiol Prydain.

Mae'r rheithgor wedi cael gwybod y gall yr achos bara am chwe mis neu fwy.



HEFYD
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific