British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011, 20:24 GMT 21:24 UK
Tour: Siom i Thomas

Cadel Evans
Cadel Evans (crys coch) enillodd y pedwerydd cymal

Fe gafodd Geraint Thomas gymal siomedig ar bedwerydd diwrnod ras feicio'r Tour De France.

Ar y cymal ym mynyddoedd Llydaw, roedd Thomas yn 29ain, ac mae bellach wedi disgyn o'r pedwerydd safle i fod yn seithfed.

Er hynny, mae Thomas o fewn 12 eiliad i'r seiclwr yn y siwmper felen - Thor Hushovd - ac yn dal ei afael ar y siwmper wen sy'n dynodi seiclwr ifanc gorau'r ras.

Enillwyd y cymal gan Cadel Evans o Awstralia, gydag enillydd ras y llynedd - Alberto Contador - yn ail.

Roedd newyddion da i dîm Thomas, Team Sky, gan i'w harweinydd Bradley Wiggins godi i'r chweched safle.

Geraint Thomas
Geraint Thomas: 'Yn teimlo'n dda'

Wedi'r cymal, dywedodd Geraint Thomas:

"Roedd y 500 metr olaf yn brifo, roedd rhaid i mi ond dal yr olwyn o 'mlaen i.

"Ond roedd hi'n ddiwrnod da i'r tîm.

"Mae'r cymal yma'n mynd i fyny, i lawr, i'r chwith ac i'r dde ac roedd tipyn o dyndra yn y grŵp - tipyn o frwydro ac roedd y tywydd yn ei gwneud hi'n anodd.

"Ond dwi'n teimlo'n dda. Dwi'n gwneud fy ngwaith bob dydd ac yn mwynhau fy hun."

Bydd y pumed cymal ddydd Mercher yn mynd a'r seiclwyr o Carhaix i Cap Frehel ar arfordir gogleddol Ffrainc.



HEFYD
Thomas yn cadw'r siwmper wen
04 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific