British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011, 16:58 GMT 17:58 UK
Baber a Burnell i olynu Young

Cardiff Blues

Mae'r ddau fu'n cynorthwyo Dai Young pan oedd yn hyfforddwr y Gleision wedi cael eu penodi i'w olynu.

Bydd Gareth Baber a Justin Burnell yn dechrau ar y gwaith ar y cyd yn fuan.

Daw'r penodiad yn dilyn penderfyniad Young i ymddiswyddo cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr rygbi gyda chlwb Wasps yn Llundain.

Mae'r penodiad yna'n dal i brofi'n un dadleuol wrth i Robert Norster, prif weithredwr y Gleision, gadarnhau fod y clwb wedi cymryd camau cyfreithiol.

Mae'r clwb yn dadlau na chawson nhw gynnig iawndal digonol am golli gwasanaeth Dai Young.

Dywedodd Norster: "Mae'n ymddangos fod y stori wedi mynd ar hyd llwybr cyfreithiol erbyn hyn."




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific