British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011, 17:20 GMT 18:20 UK
Llofruddiaeth: Cyhuddo dyn 20 oed

Lewis Clarke
Roedd Lewis Clarke ar fin ymuno gyda'r Llynges Frenhinol ym mis Tachwedd

Mae dyn 20 oed wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth Lewis Clarke yn Llanidloes nos Sadwrn.

Bu farw Mr Clarke, 19 oed, yn dilyn digwyddiad yn Nhŷ Pumlumon yn y dref.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Amwythig ond bu farw'n ddiweddarach.

Bydd y dyn 20 oed yn ymddangos gerbron ynadon Llandrindod fore Mercher.

Yn y cyfamser, mae teulu Lewis Clarke wedi bod yn talu teyrnged iddo.

Dywedodd ei fam, Gale Morris, ei fod ar fin ymuno gyda'r Llynges ym mis Tachwedd.

Dywedodd: "Roedd yn fachgen poblogaidd gyda hoffter mawr o gerddoriaeth ac actio, ac roedd yn fachgen penderfynol iawn."

Ychwanegodd ei dad, Sean Clarke: "Rydym fel teulu wedi ein chwalu o golli Lewis.

"Roedd llawer o bobl yn ei garu'n fawr, ac rydym i gyd yn falch iawn ohono fe."

Mae'r heddlu yn parhau i apelio am dystion i'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101, 01267 222020, neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.



HEFYD
Llofruddiaeth: Mwy o amser i holi
04 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific