Mae trwydded yr orsaf yn gofyn iddyn nhw ddarlledu hanner yn Gymraeg, hanner yn Saesneg
|
Mae perchnogion Radio Ceredigion wedi cael gwybod ddydd Mawrth bod eu cais i addasu eu trwydded, er mwyn darlledu llai o Gymraeg, wedi bod yn aflwyddiannus. Cyhoeddodd rheoleiddwyr y diwydiant darlledu, Ofcom, eu bod wedi gwrthod cais Town and Country Broadcasting i newid amodau eu cytundeb darlledu. Roedd y cwmni eisiau dileu'r gofyniad y dylai darllediadau sgwrsio dwyieithog yr orsaf gyfateb i 'tua hanner Cymraeg a hanner Saesneg'. Hefyd, roedd y cwmni yn dymuno gostwng y gofyniad am gerddoriaeth Cymraeg yn ystod y dydd o 20 % i 10 %. Penderfynodd Ofcom gynnal cyfnod ymgynghoriad o Mai 10 tan Mehefin 3 2010, mewn ymdrech i gasglu barn pobl am y cais. Dywedodd Martin Mumford, rheolwr gyfarwyddwr y grŵp, eu bod wedi gwneud y cais "er mwyn treulio llai o amser ar reoleiddio a mwy o amser yn creu radio lleol da." Ychwanegodd eu bod nhw nawr am roi'r mater hwn o'r neilltu "i gael canolbwyntio ar sicrhau lle Radio Ceredigion fel prif orsaf radio'r sir". Croesawu'r penderfyniad Mewn ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mawrth, dywedodd Geraint Davies ar ran Ffrindiau Radio Ceredigion: "Yn naturiol dwi'n croesawu'r newyddion, a dwi'n mawr obeithio nawr y bydd Ofcom yn sicrhau bod y cwmni'n darlledu'r hyn sy'n ofynnol yn ôl termau'r drwydded - hynny yw, bod y ddarpariaeth hanner yn Gymraeg, hanner yn Saesneg." Daw'r cyhoeddiad ar yr un diwrnod a'r cadarnhad mai Town and Country Broadcasting Cyf sydd berchen ar yr orsaf radio yn llwyr erbyn hyn, ar ôl prynu'r 20% oedd yn weddill gan gwmni Tindle Newspapers. Roedd y cwmni'n berchen ar 80% o'r busnes ers Ebrill 2010. Yn ôl Mr Mumford, mae hyn yn "bleidlais o hyder yng nghynaliadwyedd y busnes." Ychwanegodd fod tîm Radio Ceredigion wedi cymryd camau mawr ymlaen dros y flwyddyn ddiwetha', gan droi colledion yr orsaf yn elw am y tro cynta' yn hanes y cwmni.
|