Mae nifer o ardaloedd difreintiedig yn derbyn cymorth gan y rhaglen
|
Fe fydd y Llywodraeth yn ymgynghori i wneud newidiadau i gynllun Cymunedau'n Gyntaf, ond mae'r cynllun yn ei hanfod i barhau. Mae adroddiad gan Sefydliad Joseph Rowntree yn Hydref 2010 wedi codi cwestiynau dros effeithlonrwydd y cynllun. Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus hefyd wedi canfod bod Llywodraeth y Cynulliad wedi methu dangos bod y rhaglen yn cynnig gwerth am arian. Ond bwriad y Llywodraeth yw "adeiladu ar gryfderau" y cynllun gwreiddiol a "dysgu o brofiadau" y ddeng mlynedd ddiwethaf. Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau yn dechrau ddydd Mawrth ac yn para tan fis Medi, gyda'r nod o weithredu'r cynllun ar ei newydd wedd o fis Ebrill 2012. Ffiniau dearyddol Cyflwynwyd Cymunedau'n Gyntaf gan y Llywodraeth yn 2001 er mwyn rhoi'r cyfle i bobl leol gyfrannu tuag at y gwaith o adfywio ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Mewn datganiad yn y Cynulliad ddydd Mawrth, dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, y bydd mwy o bwyslais ar sicrhau bod Cymunedau yn Gyntaf yn cefnogi'r unigolion a'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn hytrach na chadw at wasanaethu pobl o fewn i ffiniau daearyddol. Fe fydd y rhaglen yn dal i gael ei gweithredu yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ond fe fydd llai o ardaloedd penodedig. "Ar hyn o bryd, mae dros 150 o bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf, sy'n gweithredu mewn ardaloedd o bob maint," meddai'r Gweinidog. "Yn y gorffennol, mae wedi bod yn anodd i brif bartneriaid fel darparwyr iechyd ac awdurdodau lleol gydweithio er mwyn pennu blaenoriaethau eu rhaglenni o fewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf, gan fod ffiniau daearyddol caeth y rhaglen yn eu cyfyngu. "Bydd Llywodraeth Cymru yn trafod gyda phrif bartneriaid pob ardal awdurdod lleol, gan gynnwys partneriaethau presennol Cymunedau yn Gyntaf, ynghylch sut y dylid targedu dyfodol y rhaglen yn eu hardaloedd." Beirniadaeth o'r cynllun gwreiddiol yw nad oedd digon o fonitro beth oedd yn digwydd i'r arian oedd yn cael ei roi i brosiectau - cyhuddwyd gweinyddwyr prosiect Plas Madoc yn Wrecsam o gamweinyddu difrifol. Dywedodd Mr Sargeant y byddai llwyddiant y prosiectau'n cael ei hasesu o ran eu heffaith ar ragolygon addysg a sgiliau, sefyllfa ariannol, ac iechyd unigolion. Er mwyn mesur llwyddiant y rhaglen, bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno cyfres o ddangosyddion allweddol o dan y gwahanol themâu er mwyn sicrhau dull mwy cyson o asesu effaith a chyfraniad y rhaglen.
|