Roedd George Osborne yn 'chwa o awyr iach' gyda Carwyn Jones yn Llundain
|
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cyfarfod â'r Canghellor, George Osborne, i amlinellu'r achos dros ddiwygio setliad ariannol Cymru ddydd Mercher ac wedi canmol Mr Osborne am fod yn "chwa o awyr iach" o ran ei agwedd. Cyfarfu'r ddau am awr yn y trysorlys brynhawn Mercher - disgwylir cyhoeddiad am gomisiwn ar gyllido Cymru maes o law. Dywedodd Mr Jones ei fod yn disgwyl i gadeirydd y comisiwn a'i aelodau gael eu cyhoeddi cyn diwedd y tymor seneddol ac y bydd y comisiwn yn adrodd nôl o fewn y flwyddyn. Dywedodd y trysorlys y byddai'r Canghellor yn barod i wrando a dywedodd Mr Jones ei fod yn agored i drafod y ffordd ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru yn galw am system newydd sy'n fwy teg er mwyn ariannu Cymru yn y dyfodol. Buddsoddi Mewn datganiad i'r Senedd fis Mehefin, dywedodd Mr Jones y byddai'n gofyn i lywodraeth San Steffan ddatganoli "pecyn cynhwysfawr" o bwerau dros gyllid. Soniodd am bwerau codi trethi fyddai'n codi gwerth £200 miliwn mewn treth gan gynnwys treth tirlenwi, treth stamp a tholl teithwyr awyr. Byddai'n defnyddio'r arian i fuddsoddi mewn prosiectau seilwaith fel ffyrdd ac ysgolion - fyddai hefyd yn creu swyddi. "Mae'r modd y caiff Cymru ei hariannu ar hyn o bryd - y Fformiwla Barnett - bellach yn gwbl anaddas," meddai Mr Jones cyn teithio i Lundain. "Dros amser mae'n debygol iawn o arwain at sefyllfa lle bydd gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn derbyn llai a llai o arian. "Mae hyn yn gwbl annerbyniol ac mae'n rhaid i unrhyw system newydd fynd i'r afael â'r broblem hon. "Mae angen i ni hefyd sicrhau nad Llywodraeth Cymru yw'r unig Lywodraeth yn y DU na all fenthyca arian ar gyfer buddsoddi mewn prosiectau fel ffyrdd ac ysbytai."
|