Cafodd Gavin Rees ei goroni yn bencampwr is-drwm Ewrop ym mis Mehefin
|
Mae pencampwr is-drwm Ewrop, Gavin Rees, wedi gohirio ei ornest i amddiffyn ei deitl am ei fod wedi anafu ei law. Roedd y bocsiwr o Drecelyn i fod i baffio yn erbyn pencampwr Lloegr, Derry Mathews yn Arena Motorpoint yng Nghaerdydd ar Orffennaf 23. Cafodd Rees, sy'n gyn-bencampwr WBA y byd ei goroni yn bencampwr is-drwm Ewrop wedi iddo guro'r Gwyddel Andrew Murray ar bwyntiau yng Nghaerdydd ar Fehefin 4 eleni. Mae'n debyg fod Rees wedi anafu ei law wrth iddo ymarfer ar gyfer yr ornest. Dywedodd hyrwyddwr yr ornest, Eddie Hearn, y byddai'r ornest yn cael ei hail-drefnu yn ddiweddarach eleni gan obeithio y byddai dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer mis Medi neu fis Hydref. Bydd pobl sydd wedi prynu ticedi ar gyfer yr ornest yn cael ad-daliad llawn.
|