Mae nifer o safbwyntiau gwahanol ynglŷn â sut i daclo problemau band eang yng nghefn gwlad
|
Mae band eang yn prysur ddatblygu i fod y prif rwystr i fusnesau rhag sefydlu yn ardaloedd gwledig Cymru, yn ôl Sefydliad Tir a Busnes Cefn Gwlad. Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Seneddol y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig ddydd Mawrth, dywedodd Ben Underwood ei fod yn broblem ar draws Cymru. Dywedodd Huw Thomas o NFU Cymru bod band eang yn hanfodol i economi wledig Cymru a bod diffyg band llydan yn achosi gwir broblemau i ffermwyr sy'n canfod bod mwy a mwy o'i gwaith angen cael ei wneud ar-lein. Cyfeiriodd at un enghraifft lle'r oedd ffermwr methu â chysylltu at ddarparwr band eang er bod ei fab, 200 llath i ffwrdd, yn medru gwneud hynny - a bod sefyllfaoedd fel hyn yn rhwystredig i'r gymuned amaethyddol. Llywodraeth dan y lach Beirniadodd Mr Thomas a Mr Underwood gynllun band eang Llywodraeth Cymru. Dywedodd Mr Thomas bod 'na deimlad "nad oedd y cynllun a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ryw flwyddyn yn ôl wedi cael y cyhoeddusrwydd y dylai" ac felly nad oedd llawer yn ymwybodol o'r grantiau sydd ar gael. Ychwanegodd Mr Underwood bod targedau'r Llywodraeth ar gyfer band eang yn "afrealistig" a bod ei gweledigaeth yn "dymor byr." Roedd yn annog y Llywodraeth i fynd ar ôl partneriaethau cyhoeddus/preifat gan fod y ffordd honno wedi gweithio yng Nghernyw. Roedd hefyd yn awyddus i Gymru fanteisio ar y cyfleoedd technoleg 4G. Ond rhybuddiodd Abby Hanson o 'Disconnected Wales' bod angen bod yn ofalus ynglŷn â'r hyn oedd pobl yn ei ddisgwyl gan 4G. Roedd pryder bod technoleg yn newid yn gyflym, tra bod cynlluniau'r Llywodraeth yn aros yr un peth - gan olygu y bydd Cymru bob amser ar ei hôl hi o ran band eang. Daeth cynrychiolwyr o BT, VIRGIN a Fibre Speed i roi tystiolaeth hefyd. Di-wifr neu ffibr? Bu dadlau rhwng y tri am eu bod yn anghytuno ar sut i daclo problemau'r ardaloedd heb fand eang - 'not spots' fel maen nhw'n cael eu galw. Mynnodd Ann Beynon o BT y dylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn ffibr: "Mae angen cymaint o ffibr ag sy'n bosibl ar draws Cymru." Anghytunodd Graham Leach o Fibre Speed yn llwyr, gan ddweud y dylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn technoleg di-wifr yn ogystal. Mae'n dweud y gallai rhannau o ogledd Cymru fanteisio ar dechnoleg di-wifr yn y 12 mis nesaf ond byddai'n rhaid aros yn hwy am ffibr. 'Datrysiad dros dro yw di-wifr," yn ôl Ann Beynon. Dywedodd hefyd, er mwyn cael y ffibr ar draws Cymru y gallai fod galw ar yr NFU i annog ffermwyr i "helpu gyda'r palu." Beirniadodd Virgin a Fibre Speed gwmni BT am beidio ag annog cystadlu. Dywedodd Matt Rogerson o Virgin y byddai'n hoffi ehangu ar draws Cymru.
|