British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 6 Gorffennaf 2011, 05:42 GMT 06:42 UK
ApÍl Eryri yn cyrraedd y tri chwarter

Llyndy Isaf, Nant Gwynant
Mae fferm Llyndy Isaf yn cael ei ystyried yn un o'r rhannau mwyaf adnabyddus ac amgylcheddol bwysig yng nghefn gwlad Eryri

100 diwrnod ers lansio apêl £1 miliwn i sicrhau dyfodol ffermdy Llyndy Isaf yn Eryri, cyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ddydd Mercher fod £750,000 eisoes wedi ei godi.

Cafodd yr apêl ei lansio gan yr actor Matthew Rhys.

"Yr ydym wrth ein bodd gyda'r ymateb gan y cyhoedd" meddai Richard Neale, rheolwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Eryri.

"Ond, fedrwn ni ddim prynu a gofalu am Lyndy Isaf heb gyrraedd ein targed o £1miliwn, felly rwy'n apelio ar unrhyw un sy'n gwerthfawrogi y rhan yma o Eryri i'n helpu i godi'r chwarter sy'n weddill."

Ddydd Mercher dywedodd Matthew Rhys pa mor falch yr oedd o glywed y newyddion bod tri chwarter yr arian wedi ei godi mewn cyn lleied o amser.

'Cloc yn tician'

Diolchodd i bobl am roi ac apelio ar y rhai sydd heb gael cyfle i gyfrannu eto i wneud hynny cyn gynted â phosib.

"Diolch o galon i bawb sydd yn barod wedi cyfrannu arian i'n helpu i brynu Llyndy Isaf.

Mae pobl o bell ac agos wedi bod yn hael iawn, ond dydyn ni ddim wedi cyrraedd y nod ac mae'r cloc yn tician.

Matthew Rhys
Matthew Rhys yw llysgennad yr apÍl

"Mae'r ffermwr wedi rhoi tan ddiwedd y flwyddyn i ni i godi'r arian ac os na lwyddwn i godi miliwn o bunnau bydd y fferm yn cael ei gwerthu ar y farchnad agored," meddai Mr Rhys.

'Pwysigrwydd cenedlaethol'

Fferm ucheldir 600 erw (248 hectar) yn nyffryn Nant Gwynant ger Beddgelert yw Llyndy Isaf.

Mae'n cael ei ystyried yn un o'r rhannau mwyaf adnabyddus ac amgylcheddol bwysig yng nghefn gwlad Eryri, nad yw wedi ei ffermio'n ddwys.

Mae hefyd yn gartref i sawl rhywogaeth o fywyd gwyllt sydd o bwysigrwydd cenedlaethol, fel glas y dorlan, y dyfrgi a'r frân goesgoch.

Heb gefnogaeth y cyhoedd, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn rhybuddio y gallai'r fferm hon a'r dyffryn gael eu bygwth gan ddatblygiad masnachol.

Lansiwyd yr apêl i brynu Llyndy Isaf yn enw Apêl Eryri'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Ym 1998 - gyda chefnogaeth ei Llywydd bryd hynny, yr actor Cymreig Syr Anthony Hopkins - codwyd £4 miliwn i brynu stad Hafod y Llan ar lethrau deheuol Yr Wyddfa.

Ymgyrch yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i brynu Llyndy Isaf yw apêl cefn gwlad fwyaf yr Ymddiriedolaeth yn y DU ers dros ddegawd.



HEFYD
Actor yn cefnogi ApÍl Eryri
29 Maw 11 |  Newyddion
Agor canolfan £4m yn Eryri
10 Rhag 04 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific