British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 5 Gorffennaf 2011, 09:26 GMT 10:26 UK
Dawnswyr yn dilyn l traed rhieni i Langollen

Gorymdaith agoriadol Eisteddfod
Yn l yr arfer, bydd lliw a cherddoriaeth o bedwar ban y byd yn Langollen

Mae'r cystadlu yn dechrau yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen.

Wedi'r cyngerdd agoriadol nos Lun y cystadleuwyr sy'n cael y llwyfan ddydd Mawrth.

Ymhlith y perfformwyr bydd grŵp dawnsio sy'n cynrychioli Wcráin ac yn ceisio efelychu campau eu rhieni oedd yn fuddugol yn yr Eisteddfod chwarter canrif yn ôl.

Cafodd dawnswyr Hoverla fydd yn cystadlu ddydd Sadwrn eu geni yn ninas Derby yn Lloegr.

Roedd eu rhieni yn fuddugol yn 1986 a bydd rhai ohonynt yn bresennol yn Llangollen i weld y genhedlaeth diweddara yn cynrychioli Wcráin.

Cafodd eu rhieni hefyd eu magu yn Derby ar ôl i'w rheini symud i Loegr ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

'Anrhydedd'

Dywedodd gweinyddwr grŵp dawns Hoverla, Petro Kupranec: "Rydym wrth ein bodd yn dychwelyd i'r Eisteddfod chwarter canrif ar ôl ein buddugoliaeth.

"Rodd cynrychioli Wcráin yn anrhydedd o'r mwyaf.

"Pwy fydda'n meddwl y bydda ni yn dychwelyd gyda'n plant ac yn ceisio ailadrodd y gamp?

"Bydd hi'n anrhydedd personol i mi gan fod gennyf dau fab yn cystadlu."

Bydd hi hefyd yn garreg filltir i Merfyn Cousins gan mai hon fydd ei Eisteddfod olaf fel prif weithredwr.

Dydd Sul fydd diwrnod olaf y cystadlu.

Hon fydd y 65 tro i'r ŵyl gael ei chynnal.

Cafodd yr Eisteddfod gyntaf ei chynnal yn Llangollen yn 1947 wedi i'r newyddiadurwr lleol, Harold Tudor, gael y syniad o greu gŵyl i hyrwyddo heddwch rhyngwladol drwy gyfrwng cerddoriaeth ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Fe wnaeth y côr Almaenig gyntaf gystadlu yno ddwy flynedd yn ddiweddarach.



HEFYD
'Trydydd tenor' yn swyno'r dorf
16 Gorff 07 |  Newyddion
Carreras ymhlith sr Llangollen
15 Ion 07 |  Newyddion
Eisteddfod: Pris fisa'n 'rhwystr'
23 Meh 06 |  Newyddion
Pafiliwn: Lansio cynllun 'arloesol'
20 Ebr 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific