Able Radio yw'r unig orsaf radio ar-lein yn y DU ar gyfer pobl ag anableddau
|
Mae prosiect i gefnogi pobl ag anableddau i ennill cymwysterau mewn sgiliau radio a'r cyfryngau yn Nhorfaen ymysg y rhai sy'n rhannu grantiau gwerth dros £260,000 gan y Gronfa Loteri Fawr. Bydd 72 o brosiectau cymunedol ledled Cymru'n rhannu'r £261,577 a ddyfarnwyd o dan rownd ddiweddaraf Arian i Bawb, rhaglen grantiau bach y Gronfa Loteri Fawr. Mae'r cynlluniau llwyddiannus hefyd yn cynnwys Clybiau Ar Ôl Ysgol yn Ynys Môn, a chynllun i helpu pobl oedrannus â chlefyd Alzheimer yn ardal Llanelli. Gyda grant o £3,453 bydd Able Radio yn Nhorfaen yn darparu hyfforddiant cyfryngau a chyfathrebu i bobl anabl yn yr ardal.
 |
Mae ychydig iawn o bobl ag anableddau'n gweithio yn y diwydiant cyfryngau a'r cam mawr yw ennill y profiad hwnnw, a dyna nod Able Radio
|
Bydd y cynllun yn rhoi cyfle i'w haelodau ennill cymwysterau mewn sgiliau cyfryngau. Able Radio yw'r unig orsaf radio ar-lein yn y DU ar gyfer pobl ag anableddau, a bydd yr arian yn cael ei wario ar brynu mwy o gyfrifiaduron, dodrefn a thaflunydd er mwyn ehangu'r prosiect. Prosiect peilot Caiff y cyfrifiaduron eu defnyddio ar gyfer golygu deunydd fideo, sgil sy'n cael ei gynnig fel maes hyfforddiant newydd. Mae Rheolwr Cyffredinol Able Radio, Rob Symons, wedi croesawu'r grant: "Bydd yr arian hwn yn galluogi pobl ag anableddau i dderbyn hyfforddiant. "Bydd hyn yn gwella'u sgiliau cyfathrebu, eu sgiliau bywyd cyffredinol a'u hyder, a gweithio tuag at gymwysterau Rhwydwaith Coleg Agored. "Mae ychydig iawn o bobl ag anableddau'n gweithio yn y diwydiant cyfryngau a'r cam mawr yw ennill y profiad hwnnw, a dyna nod Able Radio." Sir Gâr sydd wedi derbyn y nifer mwya' o grantiau yn y rownd ddiweddaraf, gyda 14 prosiect lleol yn rhannu cyfanswm o bron i £50,000. Cafodd grŵp Tŷ Golau yn Llanelli grant o £4,850 a byddan nhw'n sefydlu prosiect peilot tair wythnos i helpu pobl oedrannus â chlefyd Alzheimer neu salwch tebyg yn y sir. Gemau bwrdd Nod y prosiect yw darparu gweithgareddau difyr i'r aelodau a fydd yn eu helpu i wella'u cof. Gyda grant o £4,397, bydd Clwb Ar Ôl Ysgol Esceifiog yn y Gaerwen yn buddsoddi mewn teganau a gemau ar gyfer gweithgareddau dan do ac awyr agored, a bydd yn cynnal amrywiaeth o weithdai drwy gydol y flwyddyn. Bydd yr arian yn talu am gyfarpar newydd, gan gynnwys gliniadur, argraffydd, camera, teganau awyr agored, adnoddau crefftau, gweithdai, Wii Fit a gemau, teganau dan do a gemau bwrdd. Clwb ar ôl ysgol arall sy'n cael arian yw Darparwyr Gofal Plant Ynys Môn Cyf. Byddan nhw'n defnyddio £4,741 i ddarparu gweithgareddau, adnoddau a gweithdai newydd ar gyfer y clwb ar ôl ysgol a'r clybiau gwyliau y maent yn eu rhedeg.
|