Mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn bwriadu torri cost cymorth cyfreithiol o £300 miliwn.
|
Mae cyfreithiwr blaenllaw yn honni y gall toriadau i gymorth cyfreithiol greu "tagfa" o fewn llysoedd Cymru. Dywed Michael Imperato y gall rhai gwrandawiadau gymryd hyd at 60 gwaith fwy o amser na'r drefn bresennol. Mae ystadegau yn dangos bod Cymru yn fwy dibynnol ar gymorth cyfreithiol na rhannau eraill o'r DU. Mae'r Weinyddiaeth Cyfiawnder yn bwriadu torri cost cymorth cyfreithiol o £300 miliwn.
Maen nhw'n honni bod angen moderneiddio'r system bresennol. Mr Imperato yw arlywydd newydd Cymdeithas Cyfreithwyr Caerdydd a'r Cylch sy'n cynrychioli 1,000 ym myd y gyfraith. 'llai o arian' Mae e'n pryderu na fydd carfan o bobl yn gallu fforddio cyflogi cyfreithiwr na bargyfreithwyr. Mae ffigurau Canolfan Cyngor ar Bopeth ar gyfer y llynedd yn dangos bod 14% o'r bobl oedd angen help cyfreithiol wedi gofyn am y posibilrwydd o gael cymorth cyfreithiol. Mae'r nifer hwn yn 5% yn fwy na'r ffigwr ar gyfer y DU. Dywedodd Erika Helps, prif weithredwr Canolfan Cyngor ar Bopeth Rhondda Cynon Taf: "Mae'r ffigyrau hyn yn dangos fod pobl yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn fwy dibynnol ar gymorth cyfreithiol na'u cyfoedion yng ngweddill y DU. "Bydd mwy o bobl yn gorfod cynrychioli eu hunain gan y bydd llai o arian ar gael ar gyfer cymorth cyfreithiol." Ar hyn o bryd mae 215,000 o achosion cyfreithiol teuluol yn cael eu gwrando mewn llysoedd yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn. Mewn datganiad, dywedodd Y Weinyddiaeth Cyfiawnder: "Mae angen symleiddio a moderneiddio'r system gyfreithiol ac rydyn ni'n gwella'r wybodaeth a chefnogaeth ar gyfer pobl sydd eisiau cynrychioli eu hunain. "Bydd cymorth cyfreithiol dal ar gael i bobl sydd mewn peryg o ddioddef trais difrifol neu sydd mewn peryg o golli eu cartrefi. "Ond mae gennyn ni un o'r systemau cymorth cyfreithiol drutaf yn y byd ac rydyn ni'n methu ei fforddio rhagor."
|