British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 3 Gorffennaf 2011, 11:45 GMT 12:45 UK
Y seiciatrydd Dafydd Huws wedi marw

Y Dr Dafydd Huws
Fe oedd Cadeirydd Plaid Cymru yn yr wythdegau

Ar ôl gwaeledd hir oherwydd canser bu farw'r gwleidydd a'r seiciatrydd, Dr Dafydd Huws.

Roedd yn 75 oed ac mae'n gadael gweddw, Rhian, a phump o blant, Gwenan, Aled, Elen, Carys a Geraint.

Yn ogystal â'i waith meddygol a gwleidyddol, roedd yn arloesi ym maes melinau gwynt.

"Roedd yn ddyn hynaws a gwybodus," meddai Eryl Vaughan, Rheolwr Gyfarwyddwr Ynni Gwynt Cymru.

"Roedd yn un o fawrion y byd gwleidyddol yn ail hanner yr 20fed Ganrif.

'Yn waddol'

"Mae ei fferm wynt ar Fynydd Gorddu ger Tal-y-bont yng Ngheredigion yn waddol i'r genedl."

Dywedodd fod ei wybodaeth am ynni gwynt ar lefel fyd-eang yn anhygoel.

"Yn sicr, fe gyfrannodd yn aruthrol at ddatblygu ynni gwynt yng Nghymru."

Fe gafodd ei ysbrydoli gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth ond yn fwy na dim ymweliad â Denmarc greodd argraff fawr arno.

Roedd y wlad wedi arloesi ym maes ynni gwynt ac roedd ei ddiwydiant cynhyrchu tyrbeini eisoes yn cyflogi miloedd.

Cadeirydd

Fe oedd Cadeirydd Plaid Cymru yn yr 1980au ac roedd yn seiciatrydd ymgynghorol yn Ysbyty'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd.

Roedd ar flaen y gad ar lawer ystyr.

Yn 1969 fe oedd cynghorydd cynta Plaid Cymru yng Nghaerdydd pan gafodd ei ethol yn Ward Plasmawr (Y Tyllgoed a Threlái).

Cyn hynny roedd ambell i gynghorydd yn yr ardaloedd Cymraeg ac yn y Cymoedd ond fe oedd y cynta i gael ei ethol mewn tre fawr neu ddinas.

Dywedodd y cyn-Aelod Cynulliad, Owen John Thomas: "Roedd yn berson brwd iawn a'i hiwmor yn gyflym ac yn ddireidus.

'Byddin fach'

"Pan oedd yn canfasio ym Mhlasmawr roedd ganddo'r ddawn i droi mas fyddin fach er mwyn ennill y sedd. Roedd pobol yn fodlon canfasio bob nos.

"Roedd yn Gymro i'r carn."

Fe safodd mewn etholiadau Seneddol ac Ewropeaidd - ar y cychwyn yn erbyn George Thomas.

Ei slogan etholiadol oedd: "Mae bod yn Gymro neu'n Gymraes yn golygu perthyn, teimlo ein bod ni'n perthyn - beth bynnag yw ein hiaith, lliw neu grefydd."

Roedd yn byw yn y Ffwrnes Blwm ger Caerffili.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific