British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011, 18:13 GMT 19:13 UK
Thomas yn cadw'r siwmper wen

Geraint Thomas
Geraint Thomas: Y reidiwr gorau o dan 25 oed

Mae Geraint Thomas wedi cadw'i afael ar y siwmper wen yn ras feicio'r Tour De France.

Mae'r siwmper yn cael ei gwisgo gan seiclwr ifanc (dan 25 oed) gorau'r gystadleuaeth, ond daeth Thomas o fewn trwch blewyn i ennill cymal 3 o'r ras ddydd Llun.

Daeth rownd y tro olaf ar y blaen, ond doedd yr un aelod arall o'i dîm - Team Sky - yn ddigon agos i roi cymorth iddo a gorffennodd y cymal yn 15fed.

Roedd hynny hefyd yn ddigon i'w gadw yn y pedwerydd safle yn y Tour, bedair eiliad y tu ôl i Thor Hushovd o Norwy.

Enillydd cymal 3 oedd Tyler Farrar o dîm Garmin-Cervelo - yr Americanwr cyntaf erioed i ennill cymal ar Orffennaf 4, diwrnod annibyniaeth America.

Romain Feillu o Ffrainc oedd yn ail, gyda Jose Joaquin Rojas o Sbaen yn drydydd, ond fe gafodd haid o seiclwyr yr un amser wrth groesi'r llinell: 4 awr, 40 munud a 21 eiliad.

Bydd y ras yn anelu am fynyddoedd Llydaw ddydd Mawrth, gyda'r pedwerydd cymal o Lorient i Mur de Bretagne.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific