British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011, 06:58 GMT 07:58 UK
Trafod 'posibiliadau economaidd yr iaith' ym Mhen Llŷn

Tirlun o Ben Llŷn
Nod y gynhadledd: Trafod sut y gall yr iaith wella sefyllfa economaidd ardaloedd fel Pen Llŷn

Cynhadledd i drafod y defnydd o'r iaith er lles economaidd yng nghefn gwlad fydd yn cael ei chynnal ym Mhen Llŷn.

Cymunedau'n Gyntaf sy wedi trefnu'r gynhadledd ddydd Llun a dydd Mawrth yn Neuadd Goffa Sarn ger Pwllheli.

"Y nod yw trafod posibiliadau economaidd yr iaith, sut i hybu busnesau sy'n defnyddio'r iaith ac yn ei hyrwyddo," meddai Swyddog Gweinyddol y mudiad, Catrin Gwyn.

Hon yw'r drydedd gynhadledd i gael ei chynnal wedi rhai yn ardal Bro Ddyfi a Sir y Fflint.

Fe fydd un yn Nhregaron yn yr hydref.

Seminarau

"Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas sy'n agor y gynhadledd a Chadeirydd Cyngor Gwynedd, John Gwilym Jones, fydd yn croesawu'r cynadleddwyr," ychwanegodd Ms Gwyn.

"Ymhlith y siaradwyr mae Wallis George o Gymdeithas Dai Eryri, Meinir Jones, Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf ym Mhen Llŷn, Ceri Cunnington o Antur Stiniog a Geraint Huws, dyn busnes ac ymgynghorydd bwyd amaeth."

Fe fydd seminarau ac ymweliad ag atyniadau ddydd Llun cyn perfformiad gan Gowbois Rhos Botwnnog yn Nhŷ Newydd, Aberdaron nos Lun.

Dydd Mawrth fe fydd mwy o seminarau, gweithdai a sesiynau holi ac ateb.



HEFYD
'Siop un stop' ar gyfer y Gymraeg
08 Meh 11 |  Newyddion
Yr Urdd i gasglu barn ar yr iaith
04 Meh 11 |  Newyddion
Dywediadau yn ysbrydoli artist
24 Ion 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific