Y protestwyr yn poeni y gallai'r hostel fod mewn lleoliad arall
|
Mae cais i sefydlu hostel i gyn-droseddwyr mewn hen gartref nyrsio yng nghanol tre wedi mynd i'r gwellt. Roedd 300 wedi protestio yn erbyn yr hostel ar gyfer hyd at 18 o gyn-garcharorion yn hen gartref nyrsio Santes Elli yn Llanelli. Dywedodd yr elusen Caer Las fod eu cais am yr adeilad yn Heol y Frenhines Fictoria'n aflwyddiannus. Tra bod y protestwyr yn croesawu'r newyddion, maen nhw wedi dweud eu bod yn gofidio y galli'r hostel fod mewn lleoliad arall. Fe fydd cyfarfod cyhoeddus ddydd Mercher. Roedd y Cynghorydd John Jones wedi dweud: "Roedd pobl ar yr hewl yn gofidio'n fawr. Dwi ddim yn meddwl y dylai fod yna. "Mae 'na ddwy feithrinfa leol ac mae 'na blant yn mynd i'r ysgol leol. 'Arfaethedig' "Dywedodd y rheini wrtho i na fydden nhw'n mynd â'r plant i'r feithrinfa os oedd yr hostel yn cael ei sefydlu ac mae 'na ddau gartref gofal lleol." Ar un adeg dywedodd llefarydd ar ran Caer Las nad oedd Santes Elli yn lleoliad pendant gan eu bod yn ystyried nifer o leoliadau ar hyn o bryd. "Mae'r prosiect arfaethedig wedi ei glustnodi yn flaenoriaeth strategol gan yr awdurdod lleol a'r Gwasanaeth Prawf, a allai helpu pobl sy'n ceisio rhoi trefn ar eu bywydau."
|