British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Gorffennaf 2011, 08:44 GMT 09:44 UK
Rali yn erbyn treblu maint pentref Bodlewyddan

Rali
Grŵp Gweithredu Bodelwyddan a Chymdeithas yr Iaith drefnodd y rali

Mae 'na alw am adolygu polisi Llywodraeth Cymru o ran datblygu tai.

Bore Sadwrn roedd tua 50 mewn rali y tu allan i swyddfa Cyngor Sir Ddinbych yn Rhuthun yn erbyn codi mwy na 1,700 o dai ym Modelwyddan.

Grŵp Gweithredu Bodelwyddan a Chymdeithas yr Iaith drefnodd y rali.

Dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru Gogledd Cymru, Llyr Huws Gruffudd: "Bodelwyddan ydi'r gwaethaf o nifer fawr o enghreifftiau o or-ddatblygu ar hyd y gogledd.

'Gorfodi'

"Mae na fwriad i godi 200 o dai newydd yn Llanfairfechan, 800 yn Abergele a 140 ym Mhenyffordd.

"Ar hyd a lled y gogledd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gorfodi mwy a mwy o dai ar ein cynghorau lleol."

Yn lle cynllunio ar gyfer cymunedau cynaliadwy, meddai, roedd Llywodraeth Cymru yn ceisio hybu stadau cymudo enfawr ar hyd yr A55.

Yn ôl y llywodraeth, fe ddylai cynlluniau lleol cynghorau ddangos ble bydd angen datblygu ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Mae trigolion y pentref yn chwyrn yn erbyn y datblygiad ac mae Grŵp Gweithredu Datblygiad Bodelwyddan wedi cynnal sawl protest.

Treblu

Ym mis Mai pleidleisiodd Cyngor Sir Ddinbych o blaid treblu maint pentref Bodelwyddan.

O drwch blewyn y pasiwyd y cynllun - roedd y bleidlais wreiddiol 20 o blaid ac 20 yn erbyn ond roedd pleidlais fwrw'r cadeirydd o blaid y cynllun.

Fe allai'r cynigion olygu codi 1,715 o dai newydd ym Modelwyddan ynghŷd ag ysgol gynradd newydd, cartref gofal a chyswllt newydd o ffordd yr A55.

Yr Eglwys Farmor, Bodelwyddan
Byddai 1,715 o dai yn cael eu codi ar dir ger yr Eglwys Farmor enwog

Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau Cymdeithas yr Iaith: "Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn.

"Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr fel hyn yn dangos diffygion mawr y system cynllunio bresennol."

Bwriad y cynllun, meddai'r cyngor, yw ymateb i'r prinder tai yn yr ardal.

Er mwyn cwrdd ag anghenion yr ardal yn y dyfodol, meddai, fe fyddai angen darparu 7,500 o gartrefi newydd erbyn 2021.



HEFYD
Mwy o dai: Pryderon am yr iaith
18 Ion 11 |  Newyddion
Treblu maint: Pentrefwyr yn trafod
29 Medi 09 |  Newyddion
Treblu maint pentre: Protest
24 Hyd 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific