British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 4 Gorffennaf 2011, 11:31 GMT 12:31 UK
Rhieni 'o blaid ysgol Gymraeg'

Dosbarth o blant
Arolygon: Rhieni'n anfodlon ar ffrydiau Cymraeg a Saesneg

Mae mudiadau wedi dweud bod rhieni ym Mhowys eisiau ysgol uwchradd benodedig Gymraeg.

Dywedodd Rhieni dros Addysg Gymraeg a Mudiad Addysg Gymraeg Gogledd Ddwyrain Powys fod arolygon yn dangos "undod barn ymhlith cannoedd o rieni'r sir".

Mae llefarydd ar ran y cyngor wedi dweud eu bod yn "parhau i asesu'r adborth a dderbyniwyd yn ystod y broses ymgynghori eang ac nid oes unrhyw benderfyniadau eto".

Roedd dau arolwg, meddai'r mudiadau, yn awgrymu'n gryf nad oedd rhieni'n fodlon ar ffrydiau Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr.

Mae dogfen ymgynghorol y cyngor am foderneiddio ysgolion uwchradd wedi beirniadu'r drefn.

55.7%

Yn ôl RhAG, roedd 55.7% o rieni eisiau ysgol uwchradd benodedig Cymraeg yng ngogledd ddwyrain Powys.

O'r gweddill roedd 21.5% eisiau mwy o wybodaeth ac yn barod i ystyried ysgol benodedig.

Dim ond 22.8% oedd am gadw'r polisi presennol, dwy ffrwd gyfochrog.

Yn ne'r sir, meddai'r mudiad, roedd 81% o blaid ysgol uwchradd benodedig Gymraeg, 13% yn dymuno derbyn mwy o wybodaeth a 6% yn erbyn.

Roedd dros 60% o'r rhai a holwyd yn ddi-Gymraeg.

'Cyfle euraidd'

"Mae'r canfyddiadau'n dangos yn glir fod rhieni o blaid sefydlu ysgolion uwchradd penodedig Cymraeg ym Mhowys," meddai Rhisiart Owen ar ran Mudiad Addysg Gymraeg Gogledd Ddwyrain Powys.

Yn ôl Lynne Griffin, Cadeirydd RhAG Aberhonddu a Phontsenni, mae "cyfle euraidd" gan sir Powys i newid system addysg y sir "er gwell ... fel y gall plant a phobl ifanc Powys dderbyn addysg gyflawn Gymraeg yn eu cymunedau lleol".



HEFYD
Cyngor o blaid ad-drefnu
04 Gorff 11 |  Newyddion
Ysgolion uwchradd: Ymgynghoriad
04 Gorff 11 |  Newyddion
Argymhelliad i gau tair ysgol
26 Mai 11 |  Newyddion
Mwy na 600 mewn cyfarfod
05 Mai 11 |  Newyddion
Ad-drefnu ysgolion: Cyfarfod cynta'
08 Maw 11 |  Newyddion
Ad-drefnu ysgolion: Gohirio cyfarfodydd
07 Chwef 11 |  Newyddion
Cau ysgol: Galw am ailfeddwl
02 Chwef 11 |  Newyddion
Bygythiad i 11 o ysgolion cynradd
19 Ion 11 |  Newyddion
Addysg: Pryder undeb am swyddi
02 Rhag 10 |  Newyddion
Mesur y galw am addysg Gymraeg
30 Tach 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific