British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 2 Gorffennaf 2011, 10:11 GMT 11:11 UK
Busnesau: 'Angen i Lywodraeth Cymru lunio strategaeth'

Archfarchnad
Mudiad: Angen asesiad annibynnol o effaith cais i godi archfarchnad

Mae angen gwell cynllunio ar y Stryd Fawr er mwyn helpu siopau bach mewn cyfnod economaidd anodd, medd mudiad.

Dywedodd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod angen i weinidogion y llywodraeth lunio strategaeth er mwyn helpu siopau a busnesau bach.

Mae yna alw hefyd am astudio'r effaith ar siopau lleol wrth ystyried cais i godi archfarchnad newydd.

Yn ôl y mudiad, dylid sicrhau bod datblygiadau mawr fel canolfannau siopa yn golygu cymhorthdal neu help llaw fel bod modd cael unedau i siopau llai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn trafod â busnesau yng Nghymru.

Conglfaen

Mae'r mudiad, sydd â 10,000 o aelodau yng Nghymru, wedi dweud mai busnesau bach yw conglfaen yr economi ym mhob ardal.

Roedd gwleidyddion o bob plaid, medd y mudiad, yn ddigon cefnogol i'w syniadau cyn Etholiad y Cynulliad ym mis Mai.

Mae'r ffederasiwn yn galw am:

  • Asesiad annibynnol o effaith pob cais i godi archfarchnad ar siopau lleol;
  • Sicrhau bod unedau fforddiadwy neu arian cymorth ar gyfer unedau yn amod unrhyw ganolfannau siopau newydd;
  • Uned troseddau busnes i Gymru;
  • Fwy o bwerau i awdurdodau lleol i wrthwynebu datblygiadau mawr er mwyn gwarchod busnesau lleol;
  • Sicrhau bod trethi busnes yn fforddiadwy fel bod modd i fusnesau canol tre gystadlu â pharciau manwerthu.

Chwarae teg

Dywedodd Janet Jones, Cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: "Y cyfan rydym yn galw amdano yw chwarae teg i fusnesau bach.

"Roedd yna gefnogaeth ymhlith y pleidiau i'r polisïau cyn yr etholiad ... a nawr rydym yn dweud bod angen gweledigaeth glir er mwyn helpu'r sector i oroesi."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r gweinidog wedi cwrdd â'r ffederasiwn yn ddiweddar ac wedi cynnal trafodaethau cychwynnol ..."



HEFYD
Busnesau: 'Prinder sgiliau'
13 Ebr 11 |  Newyddion
'Dim hyder gan fusnesau Cymru'
07 Maw 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific