Bu Waldo Williams yn dysgu yn Huntingdon am gyfnod
Os oedd cofeb eisioes yn Sir Benfro i'r bardd Waldo Williams roedd plac yn cael ei ddadorchuddio er cof amdano yn Lloegr ddydd Sadwrn.
Am gyfnod ar ddiwedd y pedwardegau roedd yn athro Lladin yn Huntingdon tua 20 milltir o Gaergrawnt.
Fe gafodd y plac ei ddadorchuddio ar wal Ysgol Uwchradd Kimbolton ar ddiwrnod aduniad y cyn-ddisgyblion.
Roedd yr Archdderwydd Jim Parc Nest yn bresennol yn y seremoni ac yn darllen y gerdd Preseli cyn i un o or-neiaint Waldo, Eleri Taylor, ddadorchuddio'r plac.
Cymdeithas Hanes Kimbolton a Chymdeithas Waldo sydd wedi trefnu gosod y plac er cof am "Williams Lladin".
Roedd rhai o'i gyn-ddisgyblion yno i rannu atgofion.
"Mae'n braf meddwl bod ysgol yn Lloegr lle bu Waldo'n athro yn credu ei bod yn deilwng codi plac i gofio amdano," meddai Cerwyn Davies, Cadeirydd Cymdeithas Waldo.
"Ac mae hyn yn profi bod Waldo eisoes yn fardd rhyngwladol a bod ei ddylanwad yn ymestyn y tu hwnt i ffiniau Cymru
"Yn wir, mae'n lled debyg mai ar derfyn ei gyfnod yn Kimbolton, pan oedd ar fin symud i Lyneham, y cyfansoddodd Waldo'r gerdd Preseli.
"Felly mae arwyddocâd yr achlysur gymaint â hynny'n ddyfnach i ni, drigolion Sir Benfro."
Cofeb Waldo yn Sir Benfro ar Waun Rhosfach ger Mynachlog-ddu
Mae'r athro Saesneg presennol, John Greening, wedi sôn am gyfraniad Waldo mewn erthygl a gyhoeddodd am feirdd y fro.
Roedd aelodau Cymdeithas Gymraeg Bedford a Chymmrodorion Llundain yn bresennol.
Ym mehntref Mynachlog-ddu ger Crymych y dysgodd Waldo Gymraeg yng nghwmni plant yr ardal ac yntau'n fachgen ysgol saith oed.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.