British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011, 11:29 GMT 12:29 UK
Bygythiad i 140 o swyddi Panasonic yng Nghaerdydd

Logo Panasonic
Mae 138 o weithwyr o dan fygythiad

Gallai bron 140 o swyddi ddiflannu oherwydd cynlluniau cwmni Panasonic i symud y gwaith i Japan.

Yn ôl y cwmni, maen nhw'n symud y gwaith o'u canolfan dylunio setiau teledu yng Nghaerdydd.

Dywedodd y cwmni y byddai symud y gwaith yn golygu bod yn gystadleuol ac yn sicrhau busnes Ewropeaidd.

Mae 138 o bobl yn gweithio yng Nghaerdydd ac mae'r cyfnod ymgynghi wedi dechrau.

Erbyn hyn, mae 530 o staff parhaol pedair uned busnes yng Nghaerdydd.

'Trafodaethau brys'

Dywedodd Mervyn Burnett o Undeb y Gweithwyr Cyffredinol a Threfol fod y cyhoeddiad ddydd Gwener yn "dipyn o sioc".

"Fe fydda i'n galw am drafodaethau brys gyda'r cwmni i gael gwybod pam eu bod yn trosglwyddo swyddi o Gaerdydd i Japan.

"Bydda i'n gofyn beth y gall y cwmni ei wneud i leddfu'r ergyd."

Dywedodd y cwmni eu bod eisiau i'r holl adrannau fod yn broffidiol.

"Bydd symud y gwaith yn golygu y bydd y cynnyrch o ansawdd uchel ond ar gost is gystadleuol.

"Tan y bydd y cyfnod ymgynghorol yn dod i ben fydd Panasonic ddim yn gwneud sylw pellach ond yn gwneud popeth posib i leihau'r effaith ar y gweithwyr."



HEFYD
Rhybudd undebau am swyddi Panasonic
21 Chwef 09 |  Newyddion
200 o swyddi yn y fantol
20 Chwef 09 |  Newyddion
Swyddi Panasonic yn y fantol
04 Chwef 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific