British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011, 06:05 GMT 07:05 UK
Diwedd ar werthu'r papur newydd ar y stryd

Un o werthwyr papur ar y stryd yng Nghaerdydd

Mae dau o brif bapurau newydd Cymru wedi rhoi'r gorau i'w gwerthu ar y stryd.

Roedd modd cael copïau o'r Western Mail a'r South Wales Echo gan werthwyr ar y stryd yng Nghaerdydd.

Dywedodd perchnogion y papurau, Media Wales, bod yr arfer wedi dod i ben.

Ychwanegodd eu bod yn cynnal trafodaethau gyda saith aelod o staff.

Mewn datganiad fe wnaethon nhw ddweud eu bod yn "astudio ffyrdd newydd o gynyddu elw a phresenoldeb y papurau yng nghanol y brifddinas."

Mae'r penderfyniad yn dod â diwedd ar ddegawdau o arferiad yn y ddinas o werthu'r papurau i bobl.

Amgylchiadau

Mae Media Wales yn rhan o grwp Trinity Mirror.

Dywedodd y sylwebydd cyfryngau Roy Greenslade - cyn-olygydd y Daily Mirror - bod gweld y gwerthwyr stryd yn diflannu yn "drist ond yn anorfod o dan yr amgylchiadau".

"Dosbarthu yw un o'r rhannau drytaf wrth gynhyrchu papur newydd," meddai.

"Mae'n ddigon naturiol mewn amgylchiadau o'r fath bod rhaid cwtogi ar gostau lle mae modd.

"Dwi'n dychmygu eu bod wedi gwneud astudiaeth o ran y costau ac nad oedden nhw'n gwerthu digon o gopïau i warantu talu'r gwerthwyr."

Dywedodd Steve Hewlett, cyflynydd rhaglen Radio 4 Media Show, nad yw'r mwyafrif o bobl bellach yn cael eu newyddion o'r papurau newydd.

"Mae'r papur newydd traddodiadol o dan fygythiad o bob cyfeiriad."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific