British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 1 Gorffennaf 2011, 05:51 GMT 06:51 UK
Cyfrifiadura ar y Cwricwlwm?

gliniadur
Polisi Plaid Cymru yn 2007 oedd gliniadur am ddim i bob plentyn

Mae gwyddonydd cyfrifiadurol profiadol yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos esiampl i weddill Prydain a gwneud cyfrifiadura yn rhan graidd o'r cwricwlwm cenedlaethol.

Bydd y Dr Tom Crick yn siarad yn y gynhadledd gyntaf i athrawon ar wella'r cwricwlwm Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg er mwyn hybu Cymru ddigidol.

Does gan Lywodraeth Cymru ddim bwriad i newid y cwricwlwm ar hyn o bryd.

Mae Dr Crick am weld cyfrifiadura yn rhan o'r cwricwlwm, tu hwnt i lythrennedd digidol - y gallu i ddefnyddio'r cyfrifiadur er enghraifft i fynd ar y we.

'Disgyblaeth graidd'

"Mae'r ffordd mae cyfrifiadureg yn cael ei ddysgu mewn ysgolion ar hyn o bryd yn cynhyrchu cenhedlaeth o ddefnyddwyr technoleg goddefol sydd ond â dealltwriaeth arwynebol o declynnau technolegol yn hytrach na dealltwriaeth fwy sylfaenol o'r ffordd maen nhw'n gweithio," meddai.

"Nod y gynhadledd yw hybu proffil addysg cyfrifiadura yng Nghymru ac arddangos y gwahaniaeth i lythrennedd digidol.

"Mae'n ddisgyblaeth graidd sy'n sail i addysg fodern, ymchwil gwyddonol a datblygu economaidd."

Mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd cyfrifiadura ond yn credu bod mwy i gyfrifiadura na dim ond creu meddalwedd.

Maen nhw wedi creu cynllun £6miliwn, 'technocamps' ar y cyd a sefydliadau eraill fel Prifysgol Abertawe i hybu diddordeb mewn technoleg gyfrifiadurol.

"Gall dysgwyr ddewis o amrediad eang o gymwysterau cyfrifiadura gan gymryd i ystyriaeth os oes diddordeb ganddyn nhw mewn gyrfa ym mae cyfrifiadura ai peidio," meddai llefarydd ar ran y llywodraeth.

"Does dim cynlluniau i adolygu'r cwricwlwm ar hyn o bryd."



HEFYD
Diwedd polisi gliniaduron am ddim
20 Meh 11 |  Newyddion
Plaid: Sefydlu 'cyflog byw'
28 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific