British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Mehefin 2011, 16:12 GMT 17:12 UK
Dim gêm brawf yn Stadiwm Swalec yn 2012

Stadiwm Swalec Lloegr v Sri Lanka 2011
Fydd 'na ddim gêm brawf yn Stadiwm Swalec yn 2012

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi dweud na fydd Stadiwm Swalec yn cynnal gêm brawf Lloegr ac India'r Gorllewin y flwyddyn nesa.

Roedd y penderfyniad oherwydd bod Morgannwg yn hwyr yn talu arian iddyn nhw ar ôl cynnal gêm brawf Lloegr yn erbyn Sri Lanka yn ddiweddar.

Mae Clwb Criced Morgannwg wedi dweud bod disgwyl i'r gêm brawf nesaf yn Stadiwm Swalec fod yn 2014.

Dywedodd eu prif weithredwr, Alan Hamer, fod trafodaethau hir wedi bod â Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

Estyn y dyddiad

"O ganlyniad i her fasnachol wynebodd y clwb wrth gynnal y gêm brawf rhwng Lloegr a Sri Lanka mae'r bwrdd wedi caniatáu estyn y dyddiad cau fel y gallwn ni dalu'r ffïoedd gafodd eu cytuno.

"Fe fydd criced rhyngwladol yn Stadiwm Swalec gydag o leiaf un gêm brawf, pum gêm undydd ryngwladol ac un gêm 20 pelawd ryngwladol yng Nghaerdydd cyn 2016."

Dywedodd hefyd fod Clwb Criced Morgannwg wedi gwneud cais yn ddiweddar i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr er mwyn cynnal gemau rhyngwladol ychwanegol yn Stadiwm Swalec yn ystod y cyfnod rhwng 2013 a 2016.

Mae disgwyl penderfyniad erbyn mis Medi.

"Hoffai Clwb Criced Morgannwg ddiolch i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr am gadarnhau yn gyhoeddus ddyfodol Stadiwm Swalec fel lleoliad ar gyfer gemau rhyngwladol," ychwanegodd.

Dydi Lloegr ddim wedi cael eu curo yn Stadiwm Swalec ac maen nhw'n edrych ymlaen at Gêm Undydd Ryngwladol yn erbyn India ddydd Gwener, Medi 16, 2011.

Fe fydd Lloegr yn wynebu De Affrica yno yn 2012 mewn gêm undydd.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific