British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Mehefin 2011, 13:26 GMT 14:26 UK
Dai Young yn gadael Y Gleision am y Wasps

Dai Young
Bu Young yn hyfforddwr Caerdydd am naw mlynedd

Mae Clwb Rygbi'r Wasps wedi cadarnhau mai Dai Young fydd eu cyfarwyddwr rygbi newydd ar gytundeb pedair blynedd.

Bydd Young yn ymuno gyda hyfforddwr amddiffyn Cymru, Shaun Edwards, a chyn-faswr y Gleision, Nicky Robinson.

Ymddiswyddodd Young flwyddyn cyn diwedd ei gytundeb fel hyfforddwr y Gleision er mwyn derbyn cynnig y clwb o Uwchgynghrair Aviva.

Yn y cyfamser, mae cyn-bennaeth Wasps, Tony Hanks, wedi dangos diddordeb yn swydd wag y Gleision wedi ymadawiad Young.

Gyrfa

Fe lywiodd Young, 43 oed, y Gleision i rownd gynderfynol Cwpan Heineken yn 2009, dim ond i'r clwb golli gêm gyfartal ar giciau cosb.

Bu hefyd yn llwyddiannus yn y Cwpan Eingl-Gymreig yn 2009.

Dechreuodd cyn-brop Cymru a'r Llewod ei yrfa gydag Abertawe ac yna Caerdydd cyn symud i chwarae rygbi 13 gyda Leeds yn 1990.

Symudodd o Salford flwyddyn yn ddiweddarach cyn dychwelyd i rygbi'r undeb yn 1996.

Yn gynharach ym mis Mehefin roedd yng ngofal tîm y Barbariaid ar gyfer eu buddugoliaethau yn erbyn Lloegr a Chymru.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific