British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Mehefin 2011, 09:55 GMT 10:55 UK
Heddlu Antigua yn clustfeinio

Catherine a Ben Mullany
Roedd yr ymosodiad pan oedd y ddau ar eu mis ml

Mae llys yn Antigua wedi clywed bod offer clustfeinio yng nghelloedd dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio cwpwl priod o Gymru.

Bu farw Ben a Catherine Mullany, y ddau'n 31 oed, o Bontardawe ar ôl cael eu saethu yng Ngwesty Cocos yng Ngorffennaf 2008.

Cafodd sgyrsiau Avie Howell, 20 oed, a Kaniel Martin, 23 oed , eu recordio ar ôl iddyn nhw gael eu cadw yn y ddalfa.

Clywodd y llys fod heddlu o Brydain wedi helpu'r heddlu lleol.

Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27, 2008.

Yn syth

Bu farw Mrs Mullany - oedd newydd gael cymwysterau i fod yn feddyg - yn syth.

Roedd ei gŵr yn dilyn cwrs er mwyn bod yn ffisiotherapydd a bu farw wythnos yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghymru.

Dywedodd y Ditectif Sarjant Sean Phillips o Heddlu Llundain ei fod yn aelod o dîm o arbenigwyr oedd wedi eu hanfon i Antigua.

Roedd y tîm wedi helpu heddlu lleol i osod offer clustfeinio rhwng Tachwedd 14 a 17.

Mae'r ddau ddiffynnydd wedi gwadu llofruddio'r cwpl o Gymru a hefyd weithiwr siop lleol, Woneta Anderson, 43 oed.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
Antigua: 'Cerdyn ffn wedi ei ddwyn'
16 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Dau wedi eu saethu
14 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Holi swyddog diogelwch
08 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: Disgrifiadau manwl
06 Meh 11 |  Newyddion
Priodferch: 'Ymladd am ei bywyd'
03 Meh 11 |  Newyddion
Llys: Cwpl yn "ffrindiau mynwesol"
03 Meh 11 |  Newyddion
Antigua: 'Dim clo ar y glwyd'
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Tystiolaeth parafeddyg
02 Meh 11 |  Newyddion
Mis ml: Achos llys yn dechrau
01 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific